Eira Wen ydi honna i mi.

Ond os oes angen sgwennu blyrb cymraeg i sioe saesneg mi fyswn i'n rhoi enw'r sioe yn saesneg ond yn sôn am Eira wen a'r saith corrach yn y blyrb. Yr un fath efo "Fireman Sam live" - dyna enw'r sioe ond wedyn wrth ddisgrifio'r sioe mi faswn yn sôn am Sam Tân. Dwi ddim yn gweld problem, mi fysa'r rhan fwyaf o blant cymraeg yn ymwybodol o'r ddau fersiwn. Ac wrth sgwennu yn Gymraeg am Superted mi fysa'n od sôn am Texas Pete pan mae pawb yn gwybod mai Dai tecsas ydio go iawn.

Sent from my iPad

On 12 Ebrill 2011, at 22:05, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Reit, dwi di cychwyn edefyn newydd. Mae hyn yn rhywbeth dwi'n ei gael yn bur anodd (nid cychwyn edefyn newydd ond y canlynol):- dwi'n cytuno efo popeth ti'n ddeud, Geraint, am Sam Tan. Ond taswn i'n rhoi 'Sam Tan yn Fyw' yn rhestr digwyddiadau Neuadd Dewi Sant oni fasat ti'n meddwl mai sioe Gymraeg oedd hi? Ond tydi hi ddim felly siawns nad oes rhaid i mi ei galw'n Fireman Sam Live. Wedyn mae'r anhawster o sut i son am gymeriada yn y blyrb. Ella mai enw'r sioe ydi Snow White & the 7 Dwarves. Felly yn y blyrb ydan ni'n ei galw hi'n Snow White ynte Gweneira? Snow White ydi ei enw priod hi a dyna be ydi ei henw hi yn y sioe, ond, ysywaeth, mae ganddi enw cydnabyddedig Cymraeg ac mae ei galw hi'n Snow White yn chwithig. Ac mae ei galw hi'n Gweneira'n ddryslyd - gallai'r plant ofyn 'Felly lle gebyst oedd y cymeriad Gweneira na na welson ni rioed moni yn y sioe?' Y tro cynta welais i Revenge of the Pink Panther roeddwn i wedi fy siomi'n ddybryd na welais i mo'r panther (hynny ychydig yn wahanol, mi wn, a thwpdra gwirionen). Ond mae hyn yn peri cryn broblema i mi'n aml. Bydd yn ddiddorol clywed eich barn neu'ch profiad. Nos da.

Anna

2011/4/12 anna gruffydd <[log in to unmask]>
na faswn siwr iawn (dan ni'n hel am drafodaeth fel Gee *effyl Bach dwad?!), ond pwy bynnag oedd y Sam Tan gwreiddiol, sioe Saesneg ydi hon a hyd y gwn i dyna be di'i enw fo yn y sioe - erioed wedi'i gweld hi. Dwi'n gweld dy bwynt di. Tro nesa ella rho i gynnig ar ei alw'n Sam Tan os dio'n gymaint o dan (sorri) ar dy groen di....!


Anna

2011/4/12 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Dwi'm yn deud y dylid mynd ati i gyfieithu enwau cymeriadau Saesneg, ond cymeriad Cymraeg ydi Sam Tân.
 
Taset ti'n gwneud blyrb Cymraeg i sioe Dolig yn Neuadd Dewi Sant, fysat ti'n deud "..a bydd Father Christmas yn siwr o ymddangos..." ?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 4:44 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

Rhyw sioe sy'n dwad ar daith i Neuadd Dewi Sant o bryd i'w gilydd - ella na cymeriad arall ydi o, dwn i ddim, ond sioe Saesneg ydi hi!!

Anna

2011/4/12 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Pa sioe?  Dydi Sam Tân ddim yn y sioe o be dwi'n gofio!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 4:33 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

Ia, ond sioe Saesneg ydi hi!!!

A

2011/4/12 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Faswn i'n cytuno efo hynny am Little Howard, ond galw Sam Tân yn Fireman Sam??? C'mon Anna, Cymro oedd o'n wreiddiol!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 4:27 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

Yn gam neu'n gymwys, eu gadael nhw yn y gwreiddiol y bydda i (e.e. Fireman Sam a llwyth o gymeriada eraill y dof ar eu traws) - dwi'n teimlo bod cywirdeb gwleidyddol o lai o bwys na bod y plant yn medru gweld pwy ydyn nhw - ac os gwelan nhw enw gwahanol yn y broliant neu'r rhaglen siawns na fyddan nhw'n drysu.

Anna

2011/4/12 Gareth Jones <[log in to unmask]>
Un cwestiwn bach arall.
 
Hanes cymeriad o'r enw Little Howard (a'i gyfaill, Big Howard) ydy'r sioe sydd o dan sylw.
 
Wrth gyfieithu broliant y sioe, a fyddech chi'n cyfieithu'r enwau hyn neu'n cadw at y gwreiddiol?
 
Wrth gwrs, mae gan rai cymeriadau cartwn enwau Cymraeg swyddogol - Peppa Pinc, Bob y Bildar, Tomos y Tanc ayyb - yn sgil addasu'r rhaglenni hyn i'r Gymraeg, ond nid felly yn achos Little Howard.
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 10:56 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

Ia - mae hynna'n codi awydd mynd yno arna (wel, tasa gin i awydd morio canu Bing Bong Be ne Gee *effyl Bach)

Anna

2011/4/12 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Cyfle i forio canu ?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Meinir Pierce Jones
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 3:32 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

neu rywbeth fel
 
cyfle i ymuno yn y canu .....
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Gareth Jones
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 2:48 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

Fyddai 'mor o ganu' yn dderbyniol yn y cyd-destun hwn?
 
Dyma'r cyd-destun:
 
'...this unique family show features sing-a-long songs, innovative 3D animation and hilarious interactive stand-up '
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 9:42 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

Ia, ac mae morio, ei morio hi ymhlith cynigion GyrA - gweler sing along o dan 'sing'.

Anna

2011/4/12 Gareth Jones <[log in to unmask]>
Sing-a-long sydd yn y ddogfen wreiddiol!
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 9:28 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

sing-along, ie?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Sian Jones
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, April 12, 2011 2:21 PM
Subject: Re: sing-a-long songs

caneuon i'w cyd-ganu?


Date: Tue, 12 Apr 2011 21:17:22 +0800
From: [log in to unmask]
Subject: sing-a-long songs
To: [log in to unmask]

Diolch am yr awgrymiadau.
 
Tybed oes gan unrhyw un awgrym ar gyfer yr uchod? Broliant sioe fyw i blant ydy'r cyd-destun, a bydd cyfle i'r gynulleidfa ganu gyda'r artistiaid.