Gwae ni'r 'siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' - dan ni'm yn honni medru gwneud eu gwaith nhw... Anna 2011/4/12 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > Dwi'n amau bod rhaid inni dderbyn bellach bod apps yn wahanol i raglenni > (programs) ac felly bod yn rhaid defnyddio apiau. > > Gyda llaw, dwi'n meddwl mai apiaid fyddai mwy nag un person o'r enw Ap, > felly does na ddim dryswch ;-) > > ----- Original Message ----- > *From:* Claire Richards <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Tuesday, April 12, 2011 3:54 PM > *Subject:* Re: apiau / apps > > O ran yr hyn mae pobl eraill yn defnyddio, ar Facebook yn Gymraeg ceir > “Apps Arall” (ŵps!) o dan Cyfrif > Hysbysiadau (yn y rhestr ar yr ochr > dde) a “Rhaglenni” o dan ‘Gosodiadau Preifatrwydd’ (gwaelod, ochr chwith). > > > > Claire > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Matthew Clubb > *Sent:* 12 April 2011 15:43 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* apiau / apps > > > > Mae rhywun wedi cyfieithu darn yn sôn am 'mobile apps' yma fel 'apiau > symudol' - fe wnaeth e ymgynghori â mi cyn anfon y gwaith ac doeddwn i ddim > yn gweld dim byd o'i le ar ei 'ap' a'i 'apiau'. Ond ces i alwad ffôn gan > y cwsmer wedyn yn dweud bod 'y siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' wedi cwyno bod > hynny'n anghywir oherwydd bod ystyr arall i 'ap'. > > > > A gadael y cysyniad rhyfedd na all un gair fod â mwy nag un ystyr am eiliad > (a hefyd o dan ba amgylchiadau yn union y byddai rhywun yn drysu rhwng ap > offer symudol a, dyweder, Dafydd ap Gwilym), ife dim ond fi sy'n teimlo ei > bod hi'n hen bryd symud gyda'r oes a thynnu'r gair i mewn i'r Gymraeg yn > iawn? ap / apiau. > > > > Diolch am unrhyw sylwadau. > >