Byddwn i'n poeni mwy am y cyfieithiad o 'mobile' fel 'symudol' . 'mobile phone apps' yw'r gwreiddiol yn llawn. Ydy'r ffôn yn gallu bod yn dawel yn Gymraeg? 2011/4/12 Matthew Clubb <[log in to unmask]>: > Mae rhywun wedi cyfieithu darn yn sôn am 'mobile apps' yma fel 'apiau > symudol' - fe wnaeth e ymgynghori â mi cyn anfon y gwaith ac doeddwn i ddim > yn gweld dim byd o'i le ar ei 'ap' a'i 'apiau'. Ond ces i alwad ffôn gan > y cwsmer wedyn yn dweud bod 'y siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' wedi cwyno bod > hynny'n anghywir oherwydd bod ystyr arall i 'ap'. > > A gadael y cysyniad rhyfedd na all un gair fod â mwy nag un ystyr am eiliad > (a hefyd o dan ba amgylchiadau yn union y byddai rhywun yn drysu rhwng ap > offer symudol a, dyweder, Dafydd ap Gwilym), ife dim ond fi sy'n teimlo ei > bod hi'n hen bryd symud gyda'r oes a thynnu'r gair i mewn i'r Gymraeg yn > iawn? ap / apiau. > > Diolch am unrhyw sylwadau.