----- Original Message -----
Sent: Tuesday, April 12, 2011 3:42
PM
Subject: apiau / apps
Mae rhywun
wedi cyfieithu darn yn sôn am 'mobile apps' yma fel 'apiau symudol' - fe
wnaeth e ymgynghori â mi cyn anfon y gwaith ac doeddwn i ddim yn gweld dim byd
o'i le ar ei 'ap' a'i 'apiau'. Ond ces i alwad ffôn gan
y cwsmer wedyn yn dweud bod 'y siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' wedi
cwyno bod hynny'n anghywir oherwydd bod ystyr arall i
'ap'.
A gadael y
cysyniad rhyfedd na all un gair fod â mwy nag un ystyr
am eiliad (a hefyd o dan ba amgylchiadau yn union y byddai rhywun yn
drysu rhwng ap offer symudol a, dyweder, Dafydd ap Gwilym), ife dim ond fi
sy'n teimlo ei bod hi'n hen bryd symud gyda'r oes a thynnu'r gair i
mewn i'r Gymraeg yn iawn? ap / apiau.
Diolch am
unrhyw sylwadau.