Dacia! ma gin i Gee *effyl Bach yn mynd rownd a rownd yn y mhen i rwan a fedra i ddim cael gwarad ag o!!
Anna
Anfarwol!! Dwi’n siwr bydd rhywun yn cael modd I fyw wrth ddarllen y cofnodion hyn mewn blynyddoedd I ddod!!
Nia
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 07 April 2011 10:37Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Gee horsey bach, wel dyma i ni le -
Ec yn y gogledd ac eg yn y de.
Sut dylem dy gyfarch sy'n dan ar ein croen.
O diar, tydi'r treiglada ma'n boen2011/4/7 Matthew Clubb <[log in to unmask]>
"Gee, geffyl bach ..." Hwiangerddi'r Wlad, Eluned Bebb (1942)
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alison Layland
Anfonwyd/Sent: 07 Ebrill 2011 07:06
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?'Gee Ceffyl Bach' sydd yn Caneuon Gwerin i Blant, Phyllis Kinney a Meredydd Evans (1981), hefyd...
A dyna beth dwi wastad wedi cylwed yma ym Maldwyn hefyd.
Alison
On 06/04/2011 16:36, Matthew Clubb wrote:"Ceffyl" sydd yn 'Caneuon Traddodiadol y Cymry' W S Gwynn Williams 1961; oes gan rywun gopi o lyfr Hwiangerddi'r Dref Wen wrth law?
Ond diddorol gweld bod clustiau rhai ohonom ni yn mynnu cynnwys y treiglad cyfarchol er gwaetha'r ffynonellau print - ei fod yn dal yn fyw ac yn iach felly. Mae'n ddigon naturiol ar lafar ond yw e? 'Dere 'ma, fach' / 'Isht, wnei di, ddyn?'
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 06 Ebrill 2011 16:00
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?Ceffyl dwi di'i glwad erioed - mae treiglo'r cyfarchol braidd yn hen ffash tydi, ha Feinir?
Anna2011/4/6 Meinir Thomas <[log in to unmask]>
Prynhawn da,
Oes rhywun yn gwybod pa un o'r ddau sy'n gywir? Mae fy anti newydd ofyn i mi. Mae hi'n gweithio mewn ysgol, ac mae 'na ychydig o ddadlau yno ynghylch pa un sy'n gywir. Mae'n debyg fod y ddau'n ymddangos mewn llyfrau. Rhaid cyfaddef, "Gee ceffyl bach" wi erioed wedi dweud. Sai'n credu mod i wedi gweld 'Gee geffyl bach" tan i mi wglo'r peth ychydig yn ol!
Cofion,
Meinir