Dwi di cychwyn trafodaeth ymhlith staff Coleg Menai rwan – cyn hir fe fydd Cymru benbaladr yn trafod y cwestiwn tyngedfennol hwn!!
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 07 April 2011 12:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Dacia! ma gin i Gee *effyl Bach yn mynd rownd a rownd yn y mhen i rwan a fedra i ddim cael gwarad ag o!!
Anna
2011/4/7 Nia Humphreys <[log in to unmask]>
Anfarwol!! Dwi’n siwr bydd rhywun yn cael modd I fyw wrth ddarllen y cofnodion hyn mewn blynyddoedd I ddod!!
Nia
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 07 April 2011 10:37
Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Gee horsey bach, wel dyma i ni le -
Ec yn y gogledd ac eg yn y de.
Sut dylem dy gyfarch sy'n dan ar ein croen.
O diar, tydi'r treiglada ma'n boen
2011/4/7 Matthew Clubb <[log in to unmask]>
"Gee, geffyl bach ..." Hwiangerddi'r Wlad, Eluned Bebb (1942)
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alison Layland
Anfonwyd/Sent: 07 Ebrill 2011 07:06
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
'Gee Ceffyl Bach' sydd yn Caneuon Gwerin i Blant, Phyllis Kinney a Meredydd Evans (1981), hefyd...
A dyna beth dwi wastad wedi cylwed yma ym Maldwyn hefyd.
Alison
On 06/04/2011 16:36, Matthew Clubb wrote:
"Ceffyl" sydd yn 'Caneuon Traddodiadol y Cymry' W S Gwynn Williams 1961; oes gan rywun gopi o lyfr Hwiangerddi'r Dref Wen wrth law?
Ond diddorol gweld bod clustiau rhai ohonom ni yn mynnu cynnwys y treiglad cyfarchol er gwaetha'r ffynonellau print - ei fod yn dal yn fyw ac yn iach felly. Mae'n ddigon naturiol ar lafar ond yw e? 'Dere 'ma, fach' / 'Isht, wnei di, ddyn?'
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 06 Ebrill 2011 16:00
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Ceffyl dwi di'i glwad erioed - mae treiglo'r cyfarchol braidd yn hen ffash tydi, ha Feinir?
Anna
2011/4/6 Meinir Thomas <[log in to unmask]>
Prynhawn da,
Oes rhywun yn gwybod pa un o'r ddau sy'n gywir? Mae fy anti newydd ofyn i mi. Mae hi'n gweithio mewn ysgol, ac mae 'na ychydig o ddadlau yno ynghylch pa un sy'n gywir. Mae'n debyg fod y ddau'n ymddangos mewn llyfrau. Rhaid cyfaddef, "Gee ceffyl bach" wi erioed wedi dweud. Sai'n credu mod i wedi gweld 'Gee geffyl bach" tan i mi wglo'r peth ychydig yn ol!
Cofion,
Meinir
COLEG MENAI, FFORDD FRIDDOEDD, BANGOR, GWYNEDD, LL57
2TP.
Tel.01248370125 Fax.01248370052
www.menai.ac.uk
Mae’r e-bost hwn ac unrhyw ddogfen sydd ynghlwm yn
gyfrinachol ac at sylw’r unigolyn y cyfeiriwyd y neges ato yn
unig.
Os digwydd i’r neges eich cyrraedd
drwy gamgymeriad a fyddech gystal â chysylltu â’r
person a anfonodd y neges a
dileu’r deunydd oddi ar unrhyw
gyfrifiadur ac ni
ddylech gopïo, dosbarthu na dangos
y cynnwys i unrhyw un. Gall y neges gynnwys safbwyntiau
personol nad
ydynt yn safbwyntiau gan Goleg Menai, oni bai y nodwyd hynny’n
bendant. Nid ydym yn
derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed a
achosir o ganlyniad i firysau yn
y meddalwedd.
This email and any attachments are
confidential and intended for the named recipient only. If it has reached you
by mistake please contact the sender and delete the material from any computer
and you should not copy, distribute or show the content to anyone. The contents
of the message may contain personal views which are not the views of Coleg
Menai, unless specifically stated. We cannot accept any liability for any loss
or damage sustained as a result of software viruses.