"Gee, geffyl bach ..." Hwiangerddi'r Wlad, Eluned Bebb (1942) _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alison Layland Anfonwyd/Sent: 07 Ebrill 2011 07:06 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"? 'Gee Ceffyl Bach' sydd yn Caneuon Gwerin i Blant, Phyllis Kinney a Meredydd Evans (1981), hefyd... A dyna beth dwi wastad wedi cylwed yma ym Maldwyn hefyd. Alison On 06/04/2011 16:36, Matthew Clubb wrote: "Ceffyl" sydd yn 'Caneuon Traddodiadol y Cymry' W S Gwynn Williams 1961; oes gan rywun gopi o lyfr Hwiangerddi'r Dref Wen wrth law? Ond diddorol gweld bod clustiau rhai ohonom ni yn mynnu cynnwys y treiglad cyfarchol er gwaetha'r ffynonellau print - ei fod yn dal yn fyw ac yn iach felly. Mae'n ddigon naturiol ar lafar ond yw e? 'Dere 'ma, fach' / 'Isht, wnei di, ddyn?' _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd Anfonwyd/Sent: 06 Ebrill 2011 16:00 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"? Ceffyl dwi di'i glwad erioed - mae treiglo'r cyfarchol braidd yn hen ffash tydi, ha Feinir? Anna 2011/4/6 Meinir Thomas <[log in to unmask]> Prynhawn da, Oes rhywun yn gwybod pa un o'r ddau sy'n gywir? Mae fy anti newydd ofyn i mi. Mae hi'n gweithio mewn ysgol, ac mae 'na ychydig o ddadlau yno ynghylch pa un sy'n gywir. Mae'n debyg fod y ddau'n ymddangos mewn llyfrau. Rhaid cyfaddef, "Gee ceffyl bach" wi erioed wedi dweud. Sai'n credu mod i wedi gweld 'Gee geffyl bach" tan i mi wglo'r peth ychydig yn ol! Cofion, Meinir