Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg
This is a bilingual message - Please see below for English version

Ymddiheuriadau os ydych wedi derbyn mwy nag un copi
Apologies for cross posting


Gwnewch fwy nag ail-osod y cadeiriau ar y Titanic: Gweithdy ynghylch cynaliadwyedd

Mai 4: Clwb Criced Morgannwg, Caerdydd

“We  need a new capitalism, based on

less growth and more well being.”

Ian Cheshire

Prif Swyddog Gweithredol, B&Q

Gall datganiad Ian Cheshire helpu i ddatrys rhai o broblemau’r economi yn genedlaethol ac yn fyd-eang, ond sut y mae hynny’n berthnasol i amgueddfeydd? Beth sy’n gwneud amgueddfa yn gynaliadwy?  Ai partneriaethau, costau rhedeg llai neu sicrhau eich bod yn wasanaeth angenrheidiol i’r awdurdodau lleol, neu a ydy hynny’n ddim byd mwy nag ail-osod cadeiriau ar fwrdd y Titanic? A ddylai amgueddfeydd wneud mwy, ac os hynny pa bethau yn union y dylent eu gwneud? Beth sy’n addas ar gyfer eich amgueddfa chi? Ydy’r cadeiriau’n berthnasol o gwbl?

Lluniwyd y gweithdy undydd hwn ar gyfer awdurdodau lleol ac amgueddfeydd annibynnol. Bydd y diwrnod yn cynnwys trafodaethau a gwaith grŵp ac ar y diwedd bydd cyfle i gynnig casgliadau cyffredinol er mwyn llunio cynllun gweithredu i bobl ei roi ar waith ar ôl iddynt ddychwelyd i’r gwaith.

Ceisiwch anghofio am eich pryderon dyddiol a phroblemau sefydliadol er mwyn edrych ar sut i ddatblygu’ch sefydliad i fod yn fwy cynaliadwy ac i wneud gwahaniaeth. Dylem fedru anghofio'r hyn sy’n bosibl heddiw a meddwl am ba bethau y bydd y cyhoedd yn dymuno’u cael yn y dyfodol efallai, a hynny heb gyfyngu ar ein gallu i feddwl oherwydd ein bod yn pryderu am faterion ariannu ar gyfer y dyfodol.

Felly, peidiwch â phoeni am doriadau ariannol mewn dyfodol sy’n edrych mor ansicr - gweithredwch! Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i chi fwynhau. Bydd yn eich ysgogi ac yn eich gorfodi i feddwl. Bydd yn cynnig amgylchedd diogel i wyntyllu syniadau. 

Cynigir y cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru.

Ymgynghorydd blaengar ym maes amgueddfeydd yw Hilary McGowan sydd hefyd yn hyfforddwraig weithredol. Mae’n arbenigo mewn gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu’u cynaliadwyedd a gwella’u heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a hynny drwy ddatblygiad personol a sefydliadol. Y mae wedi gweithio gyda nifer o gleientiaid yng Nghymru ac mae newydd gwblhau prosiect cydweithredu gyda phedwar gwasanaeth amgueddfa yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

I archebu lle, cysylltwch â Susan Swanson  yn CyMAL ar 0300 062 2107 neu [log in to unmask]


**********************************************************************************

Don’t only move the deckchairs on the Titanic: a sustainability workshop

May 4th: Glamorgan Cricket Club Cardiff



“We  need a new capitalism, based on

less growth and more well being.”

Ian Cheshire

CEO, B&Q

Ian Cheshire’s statement may help solve some of the problems of the national and global economy, but what has it got to do with museums? What makes a museum sustainable?  Is it partnerships, costing less to run, making yourself indispensable to the local authority or is this all just moving the deckchairs on the Titanic?  Should museums do more and if so, what? and what is suitable for your museum?  Are the deckchairs relevant at all?

This day workshop is designed for both local authority and independent museums.  It will involve discussion and group work and will finish with some general conclusions which will form an action plan for everyone to implement on their return to work. 

Free yourself from day-to-day worries and operational problems to look at how to develop your organisation to be more sustainable and to make a difference.  We should be able to forget what is possible today and think of what the public might want in years ahead, without being constrained in our thinking by fears for the funding future.

So don’t just feel negative about funding cuts in our uncertain future; do something about it!  This workshop will be enjoyable, stimulating and thought provoking; it will be a safe environment in which to discuss ideas. 

Courses are free of charge and are open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales.

Hilary McGowan is a leading museum consultant and executive coach who specialises in working with organisations to develop their sustainability and improve their efficiency and effectiveness through personal and organisational development.  She has worked with many clients in Wales and has just completed a collaboration project with four museum services in north east Wales.

To book a place please contact Susan Swanson on 0300 062 2107 or [log in to unmask]


Cofion gorau / Kind regards

Carys Roberts  
Swyddog Casgliadau, Safonau a Hyfforddiant / Collections, Standards and Training Officer
CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru /
CyMAL: Museums, Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru / Welsh Assembly Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Rhif Ffôn cyffredinol CyMAL general phone number 0300 062 2112
Linell uniongyrchol / Direct Line: 0300 062 2095
Ffacs/Fax: 0300 062 2052
E-bost/E-mail: [log in to unmask]

Hapus i gyfathrebu'n Saesneg neu yn y Gymraeg/Happy to communicate in English or Welsh










On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.