Tybed all rywun helpu gyda’r uchod?

 

Dyma enghreifftiau o’r brawddegau:

 

Overall 4 million attendances were made to exhibitions during 2008-09

 

Around 2 million attendances were made to participatory activities.

 

Y ffordd fwyaf naturiol fyddai dweud bod ‘4 miliwn o bobl wedi mynd i weld arddangosfeydd....’ ac ati, OND tydi hynny ddim yn dechnegol gywir oherwydd falle bod yr un bobl wedi mynd i weld nifer o arddangosfeydd (a dyna pam y defnyddir ‘attendances’ yn y Saesneg mae’n debyg)! Oes ‘na ffordd o ddod rownd hyn o gwbl?

 

Yn falch o unrhyw gymorth.

 

Rhian