Mae’r un peth yn dod lan yn aml yn Ffrangeg (e.e. « des produits artisanaux »). Mae fy ngŵr - sy’n dod o Alsace - wastad yn cynnig « regional products ». Felly beth am “lleol”? Syml a chlir o leiaf (os yw’r gair yn cyfleu’r ystyr yn eich cyd-destun chi). Andrea From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 29 March 2011 11:04 To: [log in to unmask] Subject: artisan chocolate production studio Beth yw’r Gymraeg am “ponce-speak”, sori, am “artisan chocolate” Meddyliais am gyfieithu “hand-made chocolates”, beth bynnag y byddai hynny’n ei olygu, ond ‘does gen i ddim syniad a fyddai’n wir. Wedyn meddyliais am “siocledi moethus” - ond onid yw’r rhan fwyaf o siocledi’n foethus? ‘Does dim llawer o amser gen i i wastraffu ar hyn, yng nghyd-destun set o gofnodion cynllunio, felly dyma a ddefnyddia i onid oes gan rywun syniad gwell. Diolch am unrhyw ysbrydoliaeth. Ann