Enw gwyddonol ar facteriwm yw hwn - dwi ddim yn meddwl y dylid cyfieithu enwau gwyddonol o gwbl. Gellir cyfieithu enwau brodorol ar organebau, ond fel rheol ni ddefnyddir enwau brodorol ar facteria. Y syniad y tu ol i enwau gwyddonol yw eu bod yn ddealladwy i wyddonwyr o bob gwlad a iaith. Mae enwau gwyddonol yn gallu newid hefyd - er enghraifft, ychydig flynyddoedd yn ol Clostridium welchii oedd yr enw ar hwn. Dafydd