Haha! Wrth gwrs. ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 16 March 2011 16:22 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB: Porcupine Corgorgimwch ddyliwn i fod wedi'i ddeud te, efo'r treiglad1 Anna 2011/3/16 Alun, Steffan <[log in to unmask]> Hoffi "corcorgimwch" lot fawr! ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 16 March 2011 16:09 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB: Porcupine wel wel! mae'n amlwg na wi erioed wedi son am shrimps yn Gymraeg - corgimwch bach faswn i wedi'i ddeud am wn i - ne gorgorgimwch Anna 2011/3/16 Sian Roberts <[log in to unmask]> Shrimp! Doedd gofalwyr y Clwb Plant ddim yn gwybod chwaith! Siân On 16 Mawrth 2011, at 15:55, anna gruffydd wrote: Sgiws me, be di perdysen? sweet potato? Anna 2011/3/16 Sian Roberts <[log in to unmask]> Dw i o blaid siarad Cymraeg graenus â phlant - ond dwi'n meddwl efallai bod "ballasg" yn mynd braidd yn bell! Cofiwch fod plant - ac oedolion - yn gallu bod yn greulon. Dw i'n cofio un o 'mhlant i'n cael ei sbeitio braidd mewn Clwb Plant am ddweud "hambwrdd" a "perdysen" - druan! Siân On 16 Mawrth 2011, at 15:42, anna gruffydd wrote: wel ia wir! pam aflwydd bod na air? Curiouser & curiouser said Alice Anna aka Alice 2011/3/16 CATRIN ALUN <[log in to unmask]> Hmm - diddorol. Ail ystyr y gair 'ballasg' yw 'draenog, draenog mawr' - gair o 1688. 1725 ydy'r cyfeiriad diweddaraf (GyB T252). Tybed oedd rhywun yn gwybod beth oedd 'porcupine' yng Nghymru yn 1688?! ________________________________ From: Carolyn <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 16 March, 2011 15:08:42 Subject: ATB: Porcupine Dw innau'n cytuno ac yn anghytuno hefyd - fawr o help!. Yn yr enghraifft benodol yma, dw i'n meddwl y baswn i'n dilyn greddf Catrin, ond dw i'n gweld pwynt Muiris hefyd - hy mae pob gair yn ddieithr i blant cyn iddyn nhw'i ddysgu. Dw i ddim yn siŵr fyddai plant bach o reidrwydd yn gyfarwydd â'r gair 'porcupine', ond chlywais i erioed am fallasg chwaith. Eistedd ar y ffens! Carolyn ________________________________ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd Anfonwyd/Sent: 16 Mawrth 2011 15:06 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Porcupine Cytuno ac anghytuno, Muiris - fel deudais i'n ateb i Catrin, ymadroddion sy'n mynd a hi, o'm rhan i, yn hytrach na geiria - y priod-ddullia sy'n bwyta gwead iaith ac yn ei gweddnewid yn rhywbeth arall a golygwedd wahanol ar y byd. Anna 2011/3/16 Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> Wel, fel tad i grwt pump oed, dw i ddim yn gwybod pa mor ddealladwy fyddai hanner geirfa'r Gymraeg iddo, a pan fydd yn gofyn imi 'Dadi, beth yw ystyr X' dw i'n dweud wrtho a dyna'r unig ffordd o sicrhau bod plant Cymraeg yn dod i wybod geiriau Cymraeg, eu defnyddio! Felly, dw i'n mynd i bleidleisio o blaid 'Ballasg', a dw i'n mynnu bod fy mab yn defnyddio geiriau Cymraeg bob tro. Dw i ddim yn gweld dim rheswm dros 'symleiddio' iaith (sef Seisnigo gan amlaf) Muiris 2011/3/16 CATRIN ALUN <[log in to unmask]>: > Dwi'n gwybod mai 'ballasg' ydy'r gair go iawn, ond pa mor ddealladwy ydy'r > gair yma i blant? > Dwi'n cyfieithu rhywbeth i blant ag anghenion arbennig, a 'porcupine' ydy'r > ateb i jôc. A bod yn onest, faswn i ddim yn nabod y gair 'ballasg' - beth > yw'ch barn chi am ddefnyddio 'porciwpein' neu rywbeth tebyg?! > Catrin > (Fyddai draenog ddim yn gweithio gan fod lluniau'n cyd-fynd â'r stori! - er > y byddai'n ateb llawn cystal i'r jôc) ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol ******************************************************************* ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol *******************************************************************