Hoffi
"corcorgimwch" lot fawr!
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of anna gruffydd
Sent: 16 March 2011 16:09
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Porcupine
wel wel! mae'n amlwg na
wi erioed wedi son am shrimps yn Gymraeg - corgimwch bach faswn i wedi'i ddeud
am wn i - ne gorgorgimwch
Anna
2011/3/16 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Shrimp!
Doedd gofalwyr y Clwb Plant ddim yn gwybod chwaith!
Siân
On 16 Mawrth 2011, at 15:55, anna gruffydd wrote:
Sgiws me, be di perdysen?
sweet potato?
Anna
2011/3/16 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Dw i o blaid siarad Cymraeg graenus â phlant - ond dwi'n meddwl efallai
bod "ballasg" yn mynd braidd yn bell!
Cofiwch fod plant - ac oedolion - yn gallu bod yn greulon. Dw i'n cofio
un o 'mhlant i'n cael ei sbeitio braidd mewn Clwb Plant am ddweud
"hambwrdd" a "perdysen" - druan!
Siân
On 16 Mawrth 2011, at 15:42, anna gruffydd wrote:
wel ia wir! pam aflwydd
bod na air? Curiouser & curiouser said Alice
Anna aka Alice
2011/3/16 CATRIN ALUN <[log in to unmask]>
Hmm - diddorol. Ail ystyr y gair 'ballasg' yw 'draenog,
draenog mawr' - gair o 1688. 1725 ydy'r cyfeiriad diweddaraf (GyB T252). Tybed
oedd rhywun yn gwybod beth oedd 'porcupine' yng Nghymru yn 1688?!
From: Carolyn <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, 16
March, 2011 15:08:42
Subject: ATB: Porcupine
Dw innau'n cytuno ac yn anghytuno hefyd - fawr o help!. Yn yr
enghraifft benodol yma, dw i'n meddwl y baswn i'n dilyn greddf Catrin, ond dw
i'n gweld pwynt Muiris hefyd - hy mae pob gair yn ddieithr i blant cyn iddyn
nhw'i ddysgu. Dw i ddim yn siŵr fyddai plant bach o reidrwydd yn gyfarwydd â'r
gair 'porcupine', ond chlywais i erioed am fallasg chwaith. Eistedd ar y ffens!
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 16 Mawrth 2011
15:06
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Porcupine
Cytuno ac
anghytuno, Muiris - fel deudais i'n ateb i Catrin, ymadroddion sy'n mynd a hi,
o'm rhan i, yn hytrach na geiria - y priod-ddullia sy'n bwyta gwead iaith ac yn
ei gweddnewid yn rhywbeth arall a golygwedd wahanol ar y byd.
Anna
2011/3/16 Muiris
Mag Ualghairg <[log in to unmask]>
Wel, fel tad i
grwt pump oed, dw i ddim yn gwybod pa mor ddealladwy
fyddai hanner geirfa'r Gymraeg iddo, a pan fydd yn gofyn imi 'Dadi,
beth yw ystyr X' dw i'n dweud wrtho a dyna'r unig ffordd o sicrhau bod
plant Cymraeg yn dod i wybod geiriau Cymraeg, eu defnyddio! Felly, dw
i'n mynd i bleidleisio o blaid 'Ballasg', a dw i'n mynnu bod fy mab yn
defnyddio geiriau Cymraeg bob tro.
Dw i ddim yn gweld dim rheswm dros 'symleiddio' iaith (sef Seisnigo gan amlaf)
Muiris
2011/3/16 CATRIN ALUN <[log in to unmask]>:
> Dwi'n gwybod
mai 'ballasg' ydy'r gair go iawn, ond pa mor ddealladwy ydy'r
> gair yma i blant?
> Dwi'n cyfieithu rhywbeth i blant ag anghenion arbennig, a 'porcupine'
ydy'r
> ateb i jôc. A bod yn onest, faswn i ddim yn nabod y gair 'ballasg' - beth
> yw'ch barn chi am ddefnyddio 'porciwpein' neu rywbeth tebyg?!
> Catrin
> (Fyddai draenog ddim yn gweithio gan fod lluniau'n cyd-fynd â'r stori! -
er
> y byddai'n ateb llawn cystal i'r jôc)