Dwi'n cytuno efo Megan, does dim angen "term" am "first aider" - dim ond swyddog cymorth cyntaf/ person cymorth cyntaf neu beth bynnag . ----- Original Message ----- From: Ann Corkett To: [log in to unmask] Sent: Saturday, February 05, 2011 7:47 PM Subject: Re: first aider Mae'n ddrwg gen i, Megan; mi ddywedais i, "gan ddibynnu ar y cyd-destun". 'Dw i ddim yn deall dy ail baragraff. Gyda llaw, dywed Bruce fod "cymhorthydd cyntaf" yn ddigon pen-agored. Ann ------------------------------------------------------------------------------ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Megan Tomos Sent: 05 February 2011 19:01 To: [log in to unmask] Subject: Re: first aider A oes gwir angen cynnig rhywbeth yma? Mae'n amlwg bod y gair first aider yn gallu awgrymu sawl agwedd yn ymwneud â chymorth cyntaf. Gwell fyddai gadael i'r cyd-destun bennu ai gwirfoddolwr/ swyddog/ cymhorthydd cymoeth cyntaf sydd ei angen. Bydd angen llyfrgell gyfan i gadw'r holl ychwanegiadau posibl hyn i Eiriadur Bruce a neb ond y ni, gyfieithwyr a gweinyddwyr, yn gwybod y geiriau a siaradwyr y Gymraeg yn ymddiheuro fwyfwy am nad ydynt yn "gwybod y gair iawn". Gall hyn fod yn niweidiol iawn. Megan ------------------------------------------------------------------------------ Date: Sat, 5 Feb 2011 18:26:46 +0000 From: [log in to unmask] Subject: Re: first aider To: [log in to unmask] O diar. Yn Geiriadur yr Academi, gwelaf "aider = helper, S.a. (See also) first", ond dim byd (cyhyd ag y gallaf ei weld) dan "first"! Yn yr Atodiad, gwelaf: 31 Add: aider n. cynorthwywr (cynorthwywyr) m, cynorthwy-ydd(-ion) m, helpwr (helpwyr) m, cynorthwywraig (cynorthwywragedd) f, h|elpwraig (helpwragedd) f S.a. first-~. Ond 'does dim "first-aider" yno chwaith. Rhywbeth i'w gywiro! Yn y cyfamser, 'rwyf wedi edrych yn fy nghronfa o gyfieithiadau a gweld un achos o "gwirfoddolwr cymorth cyntaf" - efallai byddai hynny'n saffach, gan ddibynnu ar y cyd-destun. Cofiaf fod yn "first-aider" yn y gwaith, a derbyn rhyw gydnabyddiaeth fechan, ond gwirfoddolwyr oedden ni i gyd er hynny. Ann ------------------------------------------------------------------------------ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones Sent: 05 February 2011 12:41 To: [log in to unmask] Subject: first aider Mae Google yn cynnig ambell enghraifft o 'cymhorthydd cyntaf'. Ydy hwn wedi ennill ei blwyf? Fyddai 'swyddog cymorth cyntaf' yn well? ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3424 - Release Date: 02/05/11 ------------------------------------------------------------------------------ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3424 - Release Date: 02/05/11