O diar. Yn Geiriadur yr Academi, gwelaf “aider
= helper, S.a. (See also) first”, ond dim byd (cyhyd ag y gallaf ei weld)
dan “first”!
Yn yr Atodiad, gwelaf: 31 Add:
aider n. cynorthwywr (cynorthwywyr) m, cynorthwy-ydd(-ion) m, helpwr (helpwyr)
m, cynorthwywraig (cynorthwywragedd) f, h|elpwraig (helpwragedd) f S.a.
first-~.
Ond ‘does dim “first-aider”
yno chwaith.
Rhywbeth i’w gywiro!
Yn y cyfamser, ‘rwyf wedi edrych yn
fy nghronfa o gyfieithiadau a gweld un achos o “gwirfoddolwr cymorth
cyntaf” - efallai byddai hynny’n saffach, gan ddibynnu ar y
cyd-destun. Cofiaf fod yn “first-aider” yn y gwaith, a derbyn rhyw
gydnabyddiaeth fechan, ond gwirfoddolwyr oedden ni i gyd er hynny.
Ann
From:
Sent: 05 February 2011 12:41
To:
[log in to unmask]
Subject: first aider
Mae
Google yn cynnig ambell enghraifft o 'cymhorthydd cyntaf'. Ydy hwn wedi
ennill ei blwyf? Fyddai 'swyddog
cymorth cyntaf' yn well?
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3424 - Release Date: 02/05/11