Print

Print


Dwi hefyd weithia wedi defnyddio 'wrth graidd' - o, pam bod rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r fath betha yn lle siarad Saesneg plaen - ond be dwi haws a chwyno - y delivery a'r involve a'r engage ('young people are highly engaged with the Authority' ges i'n ddiweddar a phan ofynnais i be oedd o'n feddwl wyddai'r swyddog ddim, am nad y fo ddaru'i sgwennu ond mi gyfaddefodd ei fod yn gwbl amwys a chynnig disgrifiad i mi o be oedd y bobol ifanc yna'n ei wneud, sef eu bod nhw'n ymroddedig iawn i'r Awdurdod ac yn gwneud llawer o betha efo fo - ha! felly dyna be mae 'highly engaged' yn ei olygu - weithia!). Ddaru rhywun yrru at y cylch erthygl yn cynnwys petha/geiria na ddylid byth mo'u defnyddio? Ta o rywle arall y ces i o?

Pissed off, Pollutri

2011/2/3 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
Gwell hwyr na hwyrach ...

"un o'r ychydig lywodraethau/un o'r dyrnaid o lywodraethau yn y byd sydd â dyletswydd gyfreithiol i ddatblygiad cynaladwy ('cynaliadwy', os mynnwch chi) yn gwbl (gwbl) ganolog/greiddiol iddi"  ?

Hyd y gwela i, gyda llaw, does dim cofnod o 'only = ychydig/dyrnaid' yn GyrA. 

Berwyn

On Wed, Feb 2, 2011 at 10:42 AM, Gareth Jones <[log in to unmask]> wrote:
Dyma'r cyd-destun:

...the Welsh Assembly Government, one of the only governments in the world to have a legal duty to sustainable development enshrined at its heart.

Unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda?