Lecio bregus. Mae ymadroddion bob amsar yn draffarth, ond rhaid plygu i'r drefn am wn i ac a dalo i'r pibydd a ddewis y don
Anna
Wel mae'r Cynulliad wedi penderfynu ar "agored i niwed". Felly wrth gyfieithu iddyn nhw dyna fydda i'n ei ddefnyddio (the customer is always right!). Ond i bob pwrpas arall mi fydda i'n defnyddio "bregus".----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffyddTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Friday, February 25, 2011 7:11 PMSubject: Re: Children and Vulnerable AdultsMae 'agored i niwed' bob amser wedi nharo fi'n anhylaw. Dyma'r tro cynta dwi di clwad hyglwyf. O diar, oes na rywun yn mynd i benderfynu??
Anna
2011/2/25 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Mae'n well gen i "bregus" nag "agored i niwed".----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Ann CorkettTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Friday, February 25, 2011 5:02 PMSubject: Children and Vulnerable AdultsMae’r ateb ‘rwyf newydd ei anfon ynghylch “sydd a” ayb wedi f’atgoffa i i ofyn eich barn ynghylch hyn.
Cyfieithiad amlwg yr uchod, o gofio’r cyngor a gefais, fyddai “Plant ac Oedolion Agored i Niwed”.
Ond mae modd cymryd bod hwnna’n golygu “Plant Agored i Niwed ac Oedolion Agored i Niwed”.
Wrth gwrs byddai modd imi roi “Oedolion Agored i Niwed a Phlant”, ond mae’n dipyn o newid.
Beth fyddai’n arfer da, ‘dych chi’n meddwl?
Diolch,
Ann