Print

Print


Mae 'agored i niwed' bob amser wedi nharo fi'n anhylaw. Dyma'r tro cynta dwi di clwad hyglwyf. O diar, oes na rywun yn mynd i benderfynu??

Anna

2011/2/25 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Mae'n well gen i "bregus" nag "agored i niwed".
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Ann Corkett
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Friday, February 25, 2011 5:02 PM
Subject: Children and Vulnerable Adults

Mae’r ateb ‘rwyf newydd ei anfon ynghylch “sydd a” ayb wedi f’atgoffa i i ofyn eich barn ynghylch hyn.

 

Cyfieithiad amlwg yr uchod, o gofio’r cyngor a gefais, fyddai “Plant ac Oedolion Agored i Niwed”.

Ond mae modd cymryd bod hwnna’n golygu “Plant Agored i Niwed ac Oedolion Agored i Niwed”.

Wrth gwrs byddai modd imi roi “Oedolion Agored i Niwed a Phlant”, ond mae’n dipyn o newid.

 

Beth fyddai’n arfer da, ‘dych chi’n meddwl?

 

Diolch,

 

Ann