Dwi'n gwybod be mae Term Cymru'n ei ddweud, dim ond mynegi barn wnes i!
 
Ond i ateb dy broblem, dwi'n meddwl y baswn i'n rhoi "oedolion agored i niwed a phlant" er mwyn bod yn hollol eglur.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Friday, February 25, 2011 6:44 PM
Subject: Re: Children and Vulnerable Adults

Dyna’r hyn a ddywedwyd wrthyf ar ran TermCymru:

Defnyddir 'hyglwyf' mewn cyd-destunau cyfreithiol, mewn deddfwriaeth ac ati, a defnyddir 'agored i niwed' mewn testunau eraill yng nghyd-destun gofal cymdeithasol.

 

Gan fod hyn yn bennawd ar gyfer Polisi sefydliad, ‘rwy’n meddwl y byddai’n well imi lynu at yr eirfa swyddogol.  Os edrychwch dan “vulnerable” mae ‘na lawer o son am y ddau grwp, a hyd yn oed y term: vulnerable adults and children – plant ac oedolion agored i niwed

Dyna paham ‘rwy’n poeni sut i gyfleu “children and vulnerable adults”.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 25 February 2011 18:23
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Children and Vulnerable Adults

 

Mae'n well gen i "bregus" nag "agored i niwed".

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Friday, February 25, 2011 5:02 PM

Subject: Children and Vulnerable Adults

 

Mae’r ateb ‘rwyf newydd ei anfon ynghylch “sydd a” ayb wedi f’atgoffa i i ofyn eich barn ynghylch hyn.

 

Cyfieithiad amlwg yr uchod, o gofio’r cyngor a gefais, fyddai “Plant ac Oedolion Agored i Niwed”.

Ond mae modd cymryd bod hwnna’n golygu “Plant Agored i Niwed ac Oedolion Agored i Niwed”.

Wrth gwrs byddai modd imi roi “Oedolion Agored i Niwed a Phlant”, ond mae’n dipyn o newid.

 

Beth fyddai’n arfer da, ‘dych chi’n meddwl?

 

Diolch,

 

Ann

 

 

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3467 - Release Date: 02/25/11