Mae’r ateb ‘rwyf newydd ei anfon ynghylch “sydd
a” ayb wedi f’atgoffa i i ofyn eich barn ynghylch hyn.
Cyfieithiad amlwg yr uchod, o gofio’r cyngor a gefais,
fyddai “Plant ac Oedolion Agored i Niwed”.
Ond mae modd cymryd bod hwnna’n golygu “Plant Agored
i Niwed ac Oedolion Agored i Niwed”.
Wrth gwrs byddai modd imi roi “Oedolion Agored i Niwed
a Phlant”, ond mae’n dipyn o newid.
Beth fyddai’n arfer da, ‘dych chi’n
meddwl?
Diolch,
Ann