Ond ma 'mynadd' yn dod o 'amynedd' does bosib? Sent from my iPhone On 2 Feb 2011, at 18:54, Carolyn <[log in to unmask]> wrote: > Cytuno Siân. > Carolyn > > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts > Anfonwyd/Sent: 02 Chwefror 2011 18:53 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited > > "Patience" yw "amynedd" - I mi, mae "dim amynedd" yn cyfleu'r ystyr nad yw'r tad yn ddigon amyneddgar i eistedd i lawr i wneud jig-so gyda'r plentyn neu ei fod yn mynd yn flin os yw'r plentyn yn swnian. > > Ond mae "dim 'mynedd" yn golygu "Can't be bothered" - bod e ddim yn trafferthu cysylltu â'r plentyn o gwbl. Sef yr ystyr roedd Carolyn yn ei gyfleu. > > Ydi pobl eraill yn gweld yr un gwahaniaeth? > > > Siân > > > > On 2 Chwef 2011, at 18:42, Rhian Huws wrote: > > > Sori – ella mai fi sy’n ddwl, ond dwi ddim yn deal y pwynt am gwahaniaeth rhwng ‘amynedd’ a ‘mynedd’… > > Falle bydd rhaid i mi roi rhywbeth fel ‘dim awydd cyfrannu/helpu’… > > > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts > Sent: 02 February 2011 18:21 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited > > Ond cofia bod ystyr "amynedd" yn wahanol i " 'mynedd" a bod "dim 'mynedd" yn ddierth yn y de. > Do'n i ddim wedi'i glywed e hyd yn oed yn y coleg. > > Falle byddai "Dim awydd ..." neu "Dim eisiau ... yn gliriach > > Siân > > > On 2 Chwef 2011, at 18:14, Rhian Huws wrote: > > > > O’r cyd destun, dwi’n meddwl mai ‘uninvolved’ o ddewis sydd dan sylw –h.y. ydyn nhw’n ‘uninvolved’ efo’u plant yn fwriadol ynteu ydyn nhw’n ‘uninvolved’ am nad yw’r mamau ifanc yn gadael iddyn nhw > > Dwi’n credu yr af i am awgrym Carolyn – ond ei ffurfioli fymryn gan mai cynhadledd i weithwyr iechyd proffesiynol sydd dan sylw: > > ‘Dim amynedd ynteu dim croeso?’ > > Diolch yn fawr baw > > Rhian > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd > Sent: 02 February 2011 18:02 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited > > Ond onid ydi'r slogan yma'n dibynnu ar ystyr 'uninvolved'? (un o'n cas eiria ni) - ai nhw sy heb fynadd bod yn rhan o'r peth ta rhywun arall sydd heb eu cynnwys nhw? > > Anna > > 2011/2/2 Carolyn <[log in to unmask]> > Tadau ifanc - dim 'mynedd 'ta dim croeso? > > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws > Anfonwyd/Sent: 02 Chwefror 2011 16:33 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: uninvolved or uninvited > > Helo Bawb > > Teitl araith: “Are young fathers really uninvolved or simply uninvited?’ > > Mae’r awen wedi pylu mae arna’i ofn. Y peth gorau sydd gen i hyd yma yw: > > ‘A yw tadau ifanc yn troi eu cefnau’n fwriadol neu oherwydd nad oes croeso iddynt?’ > > Gan ddiolch am bob ysbrydoliaeth! > > Rhian > > >