Print

Print


Ceisio newid y cyfrinair?

2011/2/24 Ann Corkett <[log in to unmask]>

 

 

Mae Megan Tomos wedi gofyn imi ddweud wrthych i *beidio* ag agor unrhyw neges oddi wrthi am y tro.  Mae’n ymddangos bod rhywbeth wedi cymryd drosodd ei chyfeiriad hotmail ac yn anfon neges (Saesneg yn ffodus) yn gofyn am arian. 

 

Dywedodd hyn wrthyf dros y ffon ar ol imi dderbyn neges ganddi. Nid wyf i ond yn gobeithio nad yw’r un peth wedi digwydd imi, wrth dderbyn ei neges a’i hagor, a na fydda i’n gwneud pethau’n waeth wrth anfon hon. Cafodd y neges ei sganio am firysau wrth gyrraedd fy nhgyfrifiadur innau, heb unrhyw ymateb.  A oes ‘na unrhyw un yn eich plith sy’n medru egluro beth sy’n digwydd, os gwelwch yn dda, a oes ‘na unrhyw beth y dylwn i ei wneud – a hefyd beth dylai Megan ei wneud?  Mae hi eisoes wedi anfon neges at hotmail, ond os oes ‘na unrhyw un a all helpu, mi ffonia i Megan a’i neges.

 

Llawer o ddiolch,

 

Ann