Mae Megan Tomos wedi gofyn imi ddweud wrthych i *beidio* ag agor unrhyw neges oddi wrthi am
y tro. Mae’n ymddangos bod rhywbeth wedi cymryd drosodd ei chyfeiriad
hotmail ac yn anfon neges (Saesneg yn ffodus) yn gofyn am arian.
Dywedodd hyn wrthyf dros y ffon ar ol imi dderbyn neges
ganddi. Nid wyf i ond yn gobeithio nad yw’r un peth wedi digwydd imi,
wrth dderbyn ei neges a’i hagor, a na fydda i’n gwneud pethau’n
waeth wrth anfon hon. Cafodd y neges ei sganio am firysau wrth gyrraedd fy
nhgyfrifiadur innau, heb unrhyw ymateb. A oes ‘na unrhyw un yn eich
plith sy’n medru egluro beth sy’n digwydd, os gwelwch yn dda, a oes
‘na unrhyw beth y dylwn i ei wneud – a hefyd beth dylai Megan ei
wneud? Mae hi eisoes wedi anfon neges at hotmail, ond os oes ‘na unrhyw
un a all helpu, mi ffonia i Megan a’i neges.
Llawer o ddiolch,
Ann