Y ddealltwriaeth ymhlith pobl sy'n siarad Cernyweg yw fod ein gair ni ke yn gytras â cae'r Gymraeg. Cerrig sych fydd craidd y ke, gyda chroen o bridd yn aml iawn, a phlanhigion yn amrywio o fwsogl i lwyni harti yn tydu arno. Mae adeiladu ke yn ffordd effeithiol o waredu cae o gerrig a chreu cysgod rhag y gwynt a'r glaw yr un pryd. Yn iach, Tim Tim Saunders Cyfieithydd Translator Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Inc Cyfieithu Translations Sent: 22 February 2011 16:57 To: [log in to unmask] Subject: Re: cloddio, cau cloddiau Newydd ddarganfod beth yw turf hedge In Cornwall the word hedge is all embracing, being used in its strictly correct sense for a Cornish hedge, stone hedge, turf bank or ordinary thorn hedgerow. It is derived from the Anglo-Saxon "hecg", meaning an enclosing field boundary; the lost Cornish word for our stone-clad hedges is "kee", from the same root as the word for a stone-clad quay. Terfyn cae o blanhigion yn unig (drain fel arfer) yw 'gwrych' yn Llyn. Fyddai galw cloddiau neu waliau yn 'hedge' ddim yn addas. Wil On 22/02/2011 15:28, Mary Jones wrote: Gair cyfyngedig iawn ei gwmpas yng ngwaelod Ceredigion am gau bwlch mewn clawdd (o unrhyw fath) sydd wedi ei achosi gan ryw fustach neu ddafad yn torri allan yw 'topo'. Mae'n swnio fel pe bai wedi dod o'r Saesneg 'to top (up)'. Oes 'na ryw help yn hynny, sgwn i? Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones Sent: 22 February 2011 13:31 To: [log in to unmask] Subject: Re: cloddio, cau cloddiau Mae na wahanol fathau o gloddiau - wal gerrig sych / clawdd pridd efo tyweirch drosto fo. Yn Ras Aredig Sarn maen nhw'n cael cystadleuaeth codi waliau sych (gan osod y cerrig yn eu lle efo'u dwylo) a chodi clawdd pridd (efo jac codi baw). Mae plant Ysgol Botwnnog yn cael hyfforddiant i godi waliau sych - wel rhai ohonyn nhw! Dw i'n meddwl mai 'dry stone walling' fase'r enw Saesneg am y gystadleuaeth efo cerrig a 'turf hedging' am yr un efo'r JCB. Falle bod hyn ddim yn ateb dy gwestiwn di chwaith! Rhian In a message dated 22/02/2011 13:16:21 GMT Standard Time, [log in to unmask] writes: Diolch, Iwan a Rhian, ond dwi'n cyfieithu darn i'r Saesneg ac angen y termau Saesneg. Dwi'n gwybod mai 'tyllu' ydi ystyr cloddio, ond yn amau bod yr awdur yn defnyddio 'cloddio' yma i olygu 'codi cloddiau'. Mae'n sôn am gyrsiau cloddio a chau cloddiau. Go brin bod arnoch chi bobol Llyn angen cwrs ar wneud twll. A be dwi isio'i wybod hefyd ydi ai 'stone walls' ydi'r cloddiau yma ynteu 'hedges' ? Yn ôl ateb Rhian, "stone walls", ie? ----- Original Message ----- From: Iwan Edgar <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, February 22, 2011 12:23 PM Subject: Re: cloddio, cau cloddiau Cloddio - tyllu ('codi clawdd' ydyw 'gwneud clawdd' nid 'cloddio' ) Cau cloddiau - cau tyllau mewn cloddiau wedi bylchu ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 22 February 2011 12:06 To: [log in to unmask] Subject: cloddio, cau cloddiau All rhywun o Ben Lly^n fy ngoleuo beth a olygir wrth 'cloddio', 'cau cloddiau'? Dwi'n rhyw amau nad 'excavation' ydi cloddio yn y fan yma. Geraint This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad