Print

Print


Newydd ddarganfod beth yw turf hedge

In Cornwall the word hedge is all embracing,
being used in its strictly correct
sense for a Cornish hedge, stone hedge, turf
bank or ordinary thorn hedgerow. It is derived
from the Anglo-Saxon "hecg", meaning an
enclosing field boundary; the lost Cornish
word for our stone-clad hedges is "kee", from
the same root as the word for a stone-clad
quay.

Terfyn cae o blanhigion yn unig (drain fel arfer)  yw 'gwrych' yn Llyn.  
Fyddai galw cloddiau neu waliau yn 'hedge' ddim yn addas.

Wil

On 22/02/2011 15:28, Mary Jones wrote:
>
> Gair cyfyngedig iawn ei gwmpas yng ngwaelod Ceredigion am gau bwlch 
> mewn clawdd (o unrhyw fath) sydd wedi ei achosi gan ryw fustach neu 
> ddafad yn torri allan yw ‘topo’. Mae’n swnio fel pe bai wedi dod o’r 
> Saesneg ‘to top (up)’. Oes ‘na ryw help yn hynny, sgwn i?
>
> Mary
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of 
> *Rhian Jones
> *Sent:* 22 February 2011 13:31
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: cloddio, cau cloddiau
>
> Mae na wahanol fathau o gloddiau - wal gerrig sych / clawdd pridd 
> efo tyweirch drosto fo. Yn Ras Aredig Sarn maen nhw'n cael 
> cystadleuaeth codi waliau sych (gan osod y cerrig yn eu lle efo'u 
> dwylo) a chodi clawdd pridd (efo jac codi baw). Mae plant Ysgol 
> Botwnnog yn cael hyfforddiant i godi waliau sych - wel rhai ohonyn 
> nhw! Dw i'n meddwl mai 'dry stone walling' fase'r enw Saesneg am y 
> gystadleuaeth efo cerrig a 'turf hedging' am yr un efo'r JCB. Falle 
> bod hyn ddim yn ateb dy gwestiwn di chwaith!
>
> Rhian
>
> In a message dated 22/02/2011 13:16:21 GMT Standard Time, 
> [log in to unmask] writes:
>
>     Diolch, Iwan a Rhian, ond dwi'n cyfieithu darn i'r Saesneg ac
>     angen y termau Saesneg.
>
>     Dwi'n gwybod mai 'tyllu' ydi ystyr cloddio, ond yn amau bod yr
>     awdur yn defnyddio 'cloddio' yma i olygu 'codi cloddiau'. Mae'n
>     sôn am gyrsiau cloddio a chau cloddiau. Go brin bod arnoch chi
>     bobol Llyn angen cwrs ar wneud twll.
>
>     A be dwi isio'i wybod hefyd ydi ai 'stone walls' ydi'r cloddiau
>     yma ynteu 'hedges' ?  Yn ôl ateb Rhian, "stone walls", ie?
>
>         ----- Original Message -----
>
>         *From:*Iwan Edgar <mailto:[log in to unmask]>
>
>         *To:*[log in to unmask]
>         <mailto:[log in to unmask]>
>
>         *Sent:*Tuesday, February 22, 2011 12:23 PM
>
>         *Subject:*Re: cloddio, cau cloddiau
>
>         Cloddio – tyllu (‘codi clawdd’ ydyw ‘gwneud clawdd’ nid
>         ‘cloddio’ )
>
>         Cau cloddiau – cau tyllau mewn cloddiau wedi bylchu
>
>         ------------------------------------------------------------------------
>
>         *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and
>         vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On
>         Behalf Of *Geraint Lovgreen
>         *Sent:* 22 February 2011 12:06
>         *To:* [log in to unmask]
>         <mailto:[log in to unmask]>
>         *Subject:* cloddio, cau cloddiau
>
>         All rhywun o Ben Lly^n fy ngoleuo beth a olygir wrth
>         'cloddio', 'cau cloddiau'?
>
>         Dwi'n rhyw amau nad 'excavation' ydi cloddio yn y fan yma.
>
>         Geraint
>