cloddia pridd a gwellt ym min y ffordd dwi'n eu cofio fwya ond dwi'm yn frodor ers dros ddeugain mlynadd cofia!
Anna
Mae "cloddio" yn gallu golygu codi clawdd hefyd, a hynny ers 1688 - gweler GPC t.504. Felly does dim angen lladd ar yr awdur !Dwi wedi bod yn defnyddio 'dry stone walling', ond amau oeddwn i falle mai'r 'turf hedging' oedd yma. Be sydd fwyaf cyffredin ym Mhen Llyn te?Geraint----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Inc Cyfieithu TranslationsTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Tuesday, February 22, 2011 1:37 PMSubject: Re: cloddio, cau cloddiauwal gerrig - dry stone wall
clawdd - stone and earth / earth bank (ond mae Cyngor Gwynedd yn aml yn defnyddio 'clawdd' mewn dogfennau Saesneg)
gwrych - hedge (planhigion yn unig, gall fod yn tyfu ar y ddaear neu ar ben clawdd)
Codi clawdd/cloddiau newydd sy'n iawn. Tyllu ydi cloddio. Mae'r awdur yn cymysgu.
Wil
On 22/02/2011 13:30, Rhian Jones wrote:Mae na wahanol fathau o gloddiau - wal gerrig sych / clawdd pridd efo tyweirch drosto fo. Yn Ras Aredig Sarn maen nhw'n cael cystadleuaeth codi waliau sych (gan osod y cerrig yn eu lle efo'u dwylo) a chodi clawdd pridd (efo jac codi baw). Mae plant Ysgol Botwnnog yn cael hyfforddiant i godi waliau sych - wel rhai ohonyn nhw! Dw i'n meddwl mai 'dry stone walling' fase'r enw Saesneg am y gystadleuaeth efo cerrig a 'turf hedging' am yr un efo'r JCB. Falle bod hyn ddim yn ateb dy gwestiwn di chwaith!RhianIn a message dated 22/02/2011 13:16:21 GMT Standard Time, [log in to unmask] writes:Diolch, Iwan a Rhian, ond dwi'n cyfieithu darn i'r Saesneg ac angen y termau Saesneg.Dwi'n gwybod mai 'tyllu' ydi ystyr cloddio, ond yn amau bod yr awdur yn defnyddio 'cloddio' yma i olygu 'codi cloddiau'. Mae'n sôn am gyrsiau cloddio a chau cloddiau. Go brin bod arnoch chi bobol Llyn angen cwrs ar wneud twll.A be dwi isio'i wybod hefyd ydi ai 'stone walls' ydi'r cloddiau yma ynteu 'hedges' ? Yn ôl ateb Rhian, "stone walls", ie?----- Original Message -----From: Iwan EdgarSent: Tuesday, February 22, 2011 12:23 PMSubject: Re: cloddio, cau cloddiauCloddio – tyllu (‘codi clawdd’ ydyw ‘gwneud clawdd’ nid ‘cloddio’ )
Cau cloddiau – cau tyllau mewn cloddiau wedi bylchu
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 22 February 2011 12:06
To: [log in to unmask]
Subject: cloddio, cau cloddiau
All rhywun o Ben Lly^n fy ngoleuo beth a olygir wrth 'cloddio', 'cau cloddiau'?
Dwi'n rhyw amau nad 'excavation' ydi cloddio yn y fan yma.
Geraint