cloddia pridd a gwellt ym min y ffordd dwi'n eu cofio fwya ond dwi'm yn frodor ers dros ddeugain mlynadd cofia! Anna 2011/2/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > Mae "cloddio" yn gallu golygu codi clawdd hefyd, a hynny ers 1688 - > gweler GPC t.504. Felly does dim angen lladd ar yr awdur ! > > Dwi wedi bod yn defnyddio 'dry stone walling', ond amau oeddwn i falle > mai'r 'turf hedging' oedd yma. Be sydd fwyaf cyffredin ym Mhen Llyn te? > > Geraint > > ----- Original Message ----- > *From:* Inc Cyfieithu Translations <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Tuesday, February 22, 2011 1:37 PM > *Subject:* Re: cloddio, cau cloddiau > > wal gerrig - dry stone wall > clawdd - stone and earth / earth bank (ond mae Cyngor Gwynedd yn aml yn > defnyddio 'clawdd' mewn dogfennau Saesneg) > gwrych - hedge (planhigion yn unig, gall fod yn tyfu ar y ddaear neu ar ben > clawdd) > > Codi clawdd/cloddiau newydd sy'n iawn. Tyllu ydi cloddio. Mae'r awdur yn > cymysgu. > > Wil > > On 22/02/2011 13:30, Rhian Jones wrote: > > Mae na wahanol fathau o gloddiau - wal gerrig sych / clawdd pridd > efo tyweirch drosto fo. Yn Ras Aredig Sarn maen nhw'n cael cystadleuaeth > codi waliau sych (gan osod y cerrig yn eu lle efo'u dwylo) a chodi clawdd > pridd (efo jac codi baw). Mae plant Ysgol Botwnnog yn cael hyfforddiant i > godi waliau sych - wel rhai ohonyn nhw! Dw i'n meddwl mai 'dry stone > walling' fase'r enw Saesneg am y gystadleuaeth efo cerrig a 'turf hedging' > am yr un efo'r JCB. Falle bod hyn ddim yn ateb dy gwestiwn di chwaith! > Rhian > > In a message dated 22/02/2011 13:16:21 GMT Standard Time, > [log in to unmask] writes: > > Diolch, Iwan a Rhian, ond dwi'n cyfieithu darn i'r Saesneg ac angen y > termau Saesneg. > > Dwi'n gwybod mai 'tyllu' ydi ystyr cloddio, ond yn amau bod yr awdur yn > defnyddio 'cloddio' yma i olygu 'codi cloddiau'. Mae'n sôn am gyrsiau > cloddio a chau cloddiau. Go brin bod arnoch chi bobol Llyn angen cwrs ar > wneud twll. > > A be dwi isio'i wybod hefyd ydi ai 'stone walls' ydi'r cloddiau yma ynteu > 'hedges' ? Yn ôl ateb Rhian, "stone walls", ie? > > ----- Original Message ----- > *From:* Iwan Edgar <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Tuesday, February 22, 2011 12:23 PM > *Subject:* Re: cloddio, cau cloddiau > > Cloddio – tyllu (‘codi clawdd’ ydyw ‘gwneud clawdd’ nid ‘cloddio’ ) > > Cau cloddiau – cau tyllau mewn cloddiau wedi bylchu > > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]<[log in to unmask]>] > *On Behalf Of *Geraint Lovgreen > *Sent:* 22 February 2011 12:06 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* cloddio, cau cloddiau > > All rhywun o Ben Lly^n fy ngoleuo beth a olygir wrth 'cloddio', 'cau > cloddiau'? > > Dwi'n rhyw amau nad 'excavation' ydi cloddio yn y fan yma. > > Geraint > >