Cytuno Siân. Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts Anfonwyd/Sent: 02 Chwefror 2011 18:53 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited "Patience" yw "amynedd" - I mi, mae "dim amynedd" yn cyfleu'r ystyr nad yw'r tad yn ddigon amyneddgar i eistedd i lawr i wneud jig-so gyda'r plentyn neu ei fod yn mynd yn flin os yw'r plentyn yn swnian. Ond mae "dim 'mynedd" yn golygu "Can't be bothered" - bod e ddim yn trafferthu cysylltu â'r plentyn o gwbl. Sef yr ystyr roedd Carolyn yn ei gyfleu. Ydi pobl eraill yn gweld yr un gwahaniaeth? Siân On 2 Chwef 2011, at 18:42, Rhian Huws wrote: Sori – ella mai fi sy’n ddwl, ond dwi ddim yn deal y pwynt am gwahaniaeth rhwng ‘amynedd’ a ‘mynedd’… Falle bydd rhaid i mi roi rhywbeth fel ‘dim awydd cyfrannu/helpu’… From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 02 February 2011 18:21 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited Ond cofia bod ystyr "amynedd" yn wahanol i " 'mynedd" a bod "dim 'mynedd" yn ddierth yn y de. Do'n i ddim wedi'i glywed e hyd yn oed yn y coleg. Falle byddai "Dim awydd ..." neu "Dim eisiau ... yn gliriach Siân On 2 Chwef 2011, at 18:14, Rhian Huws wrote: O’r cyd destun, dwi’n meddwl mai ‘uninvolved’ o ddewis sydd dan sylw –h.y. ydyn nhw’n ‘uninvolved’ efo’u plant yn fwriadol ynteu ydyn nhw’n ‘uninvolved’ am nad yw’r mamau ifanc yn gadael iddyn nhw Dwi’n credu yr af i am awgrym Carolyn – ond ei ffurfioli fymryn gan mai cynhadledd i weithwyr iechyd proffesiynol sydd dan sylw: ‘Dim amynedd ynteu dim croeso?’ Diolch yn fawr baw Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 02 February 2011 18:02 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited Ond onid ydi'r slogan yma'n dibynnu ar ystyr 'uninvolved'? (un o'n cas eiria ni) - ai nhw sy heb fynadd bod yn rhan o'r peth ta rhywun arall sydd heb eu cynnwys nhw? Anna 2011/2/2 Carolyn <[log in to unmask]> Tadau ifanc - dim 'mynedd 'ta dim croeso? _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws Anfonwyd/Sent: 02 Chwefror 2011 16:33 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: uninvolved or uninvited Helo Bawb Teitl araith: “Are young fathers really uninvolved or simply uninvited?’ Mae’r awen wedi pylu mae arna’i ofn. Y peth gorau sydd gen i hyd yma yw: ‘A yw tadau ifanc yn troi eu cefnau’n fwriadol neu oherwydd nad oes croeso iddynt?’ Gan ddiolch am bob ysbrydoliaeth! Rhian