Fedrai weld y gallai ‘cloddio’ fod wedi magu ystyr ‘codi clawdd’, er na chlywais neb yn dweud hynny ‘chwaith. ‘Gwrych’ ydy’ yr hyn sy’n tyfu ar ben clawdd, neu ar lawr lle nad oes yna ddim clawdd, a wal gerrig ydy’ wal gerrig. ‘Embankment’ ydy’r peth ‘gosaf Saesneg am ‘glawdd’ ond bod hwnnw’n swnio braidd yn rhy grand – yr un fath â Cob. Ond mi welais y gair ‘clawdd’ a ‘chloddiau’ yn cael ei ddefnyddio mewn pethau Saesneg Cyngor Cefn Gwlad – ella mai hynny fyddai orau. _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 22 February 2011 13:15 To: [log in to unmask] Subject: Re: cloddio, cau cloddiau Diolch, Iwan a Rhian, ond dwi'n cyfieithu darn i'r Saesneg ac angen y termau Saesneg. Dwi'n gwybod mai 'tyllu' ydi ystyr cloddio, ond yn amau bod yr awdur yn defnyddio 'cloddio' yma i olygu 'codi cloddiau'. Mae'n sôn am gyrsiau cloddio a chau cloddiau. Go brin bod arnoch chi bobol Llyn angen cwrs ar wneud twll. A be dwi isio'i wybod hefyd ydi ai 'stone walls' ydi'r cloddiau yma ynteu 'hedges' ? Yn ôl ateb Rhian, "stone walls", ie? ----- Original Message ----- From: Iwan Edgar <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, February 22, 2011 12:23 PM Subject: Re: cloddio, cau cloddiau Cloddio – tyllu (‘codi clawdd’ ydyw ‘gwneud clawdd’ nid ‘cloddio’ ) Cau cloddiau – cau tyllau mewn cloddiau wedi bylchu _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 22 February 2011 12:06 To: [log in to unmask] Subject: cloddio, cau cloddiau All rhywun o Ben Lly^n fy ngoleuo beth a olygir wrth 'cloddio', 'cau cloddiau'? Dwi'n rhyw amau nad 'excavation' ydi cloddio yn y fan yma. Geraint