Print

Print


wal gerrig - dry stone wall
clawdd - stone and earth / earth bank (ond mae Cyngor Gwynedd yn aml yn defnyddio 'clawdd' mewn dogfennau Saesneg)
gwrych - hedge (planhigion yn unig, gall fod yn tyfu ar y ddaear neu ar ben clawdd)

Codi clawdd/cloddiau newydd sy'n iawn.  Tyllu ydi cloddio.  Mae'r awdur yn cymysgu.

Wil

On 22/02/2011 13:30, Rhian Jones wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Mae na wahanol fathau o gloddiau - wal gerrig sych / clawdd pridd efo tyweirch drosto fo. Yn Ras Aredig Sarn maen nhw'n cael cystadleuaeth codi waliau sych (gan osod y cerrig yn eu lle efo'u dwylo) a chodi clawdd pridd (efo jac codi baw). Mae plant Ysgol Botwnnog yn cael hyfforddiant i godi waliau sych - wel rhai ohonyn nhw! Dw i'n meddwl mai 'dry stone walling' fase'r enw Saesneg am y gystadleuaeth efo cerrig a 'turf hedging' am yr un efo'r JCB. Falle bod hyn ddim yn ateb dy gwestiwn di chwaith!
Rhian
 
In a message dated 22/02/2011 13:16:21 GMT Standard Time, [log in to unmask] writes:
Diolch, Iwan a Rhian, ond dwi'n cyfieithu darn i'r Saesneg ac angen y termau Saesneg.
 
Dwi'n gwybod mai 'tyllu' ydi ystyr cloddio, ond yn amau bod yr awdur yn defnyddio 'cloddio' yma i olygu 'codi cloddiau'. Mae'n sôn am gyrsiau cloddio a chau cloddiau. Go brin bod arnoch chi bobol Llyn angen cwrs ar wneud twll.
 
A be dwi isio'i wybod hefyd ydi ai 'stone walls' ydi'r cloddiau yma ynteu 'hedges' ?  Yn ôl ateb Rhian, "stone walls", ie?
----- Original Message -----
From: Iwan Edgar
Sent: Tuesday, February 22, 2011 12:23 PM
Subject: Re: cloddio, cau cloddiau

Cloddio – tyllu (‘codi clawdd’ ydyw ‘gwneud clawdd’ nid ‘cloddio’ )

Cau cloddiau – cau tyllau mewn cloddiau wedi bylchu

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 22 February 2011 12:06
To: [log in to unmask]
Subject: cloddio, cau cloddiau

 

All rhywun o Ben Lly^n fy ngoleuo beth a olygir wrth 'cloddio', 'cau cloddiau'?

 

Dwi'n rhyw amau nad 'excavation' ydi cloddio yn y fan yma.

 

Geraint