wal gerrig - dry stone wall clawdd - stone and earth / earth bank (ond mae Cyngor Gwynedd yn aml yn defnyddio 'clawdd' mewn dogfennau Saesneg) gwrych - hedge (planhigion yn unig, gall fod yn tyfu ar y ddaear neu ar ben clawdd) Codi clawdd/cloddiau newydd sy'n iawn. Tyllu ydi cloddio. Mae'r awdur yn cymysgu. Wil On 22/02/2011 13:30, Rhian Jones wrote: > Mae na wahanol fathau o gloddiau - wal gerrig sych / clawdd pridd > efo tyweirch drosto fo. Yn Ras Aredig Sarn maen nhw'n cael > cystadleuaeth codi waliau sych (gan osod y cerrig yn eu lle efo'u > dwylo) a chodi clawdd pridd (efo jac codi baw). Mae plant Ysgol > Botwnnog yn cael hyfforddiant i godi waliau sych - wel rhai ohonyn > nhw! Dw i'n meddwl mai 'dry stone walling' fase'r enw Saesneg am y > gystadleuaeth efo cerrig a 'turf hedging' am yr un efo'r JCB. Falle > bod hyn ddim yn ateb dy gwestiwn di chwaith! > Rhian > In a message dated 22/02/2011 13:16:21 GMT Standard Time, > [log in to unmask] writes: > > Diolch, Iwan a Rhian, ond dwi'n cyfieithu darn i'r Saesneg ac > angen y termau Saesneg. > Dwi'n gwybod mai 'tyllu' ydi ystyr cloddio, ond yn amau bod yr > awdur yn defnyddio 'cloddio' yma i olygu 'codi cloddiau'. Mae'n > sôn am gyrsiau cloddio a chau cloddiau. Go brin bod arnoch chi > bobol Llyn angen cwrs ar wneud twll. > A be dwi isio'i wybod hefyd ydi ai 'stone walls' ydi'r cloddiau > yma ynteu 'hedges' ? Yn ôl ateb Rhian, "stone walls", ie? > > ----- Original Message ----- > *From:* Iwan Edgar <mailto:[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > *Sent:* Tuesday, February 22, 2011 12:23 PM > *Subject:* Re: cloddio, cau cloddiau > > Cloddio – tyllu (‘codi clawdd’ ydyw ‘gwneud clawdd’ nid > ‘cloddio’ ) > > Cau cloddiau – cau tyllau mewn cloddiau wedi bylchu > > ------------------------------------------------------------------------ > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On > Behalf Of *Geraint Lovgreen > *Sent:* 22 February 2011 12:06 > *To:* [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > *Subject:* cloddio, cau cloddiau > > All rhywun o Ben Lly^n fy ngoleuo beth a olygir wrth > 'cloddio', 'cau cloddiau'? > > Dwi'n rhyw amau nad 'excavation' ydi cloddio yn y fan yma. > > Geraint >