Print

Print


Excellent protector - yr Arglwydd Rhys

Ceir Datolwch yr Arglwyt Rys (Cynddelw ai Cant)

http://www.archive.org/stream/poetryofgogynfei00anwyuoft/poetryofgogynfei00anwyuoft_djvu.txt

ac ar dud 52: http://www.archive.org/stream/poetryofgogynfei00anwyuoft#page/52/mode/2up

 

Mae’n annealladwy i mi, ond wrth chwilio am “deheu” cefais:.

Kedweis kyghaws maws mae ystawd deheu

a

Hil tewdwr diwetwr deheu 

 

Cofiwch, mae testunau ar archive.org wedi’u sganio ac wedi’u digideiddio.  Os na weithiodd yr OCR yn iawn, cewch pob math o bethau od yn y testun, ac efallai na fydd y gair ‘dych chi’n chwilio amdano wedi sganio’n iawn, felly rhaid defnyddio’ch dychymyg.  Wedi chwilio’r fersiwn testun, gellid fynd at y fersiwn digidol i edrych ar y gwreiddiol.  Rhowch wybod ai’r gerdd hon ydoedd!

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 21 February 2011 16:38
To: [log in to unmask]
Subject: Excellent protector - yr Arglwydd Rhys

 

Gwaith ditectif yn hytrach na chyfieithu sy gen i heddiw.

Mewn darn Saesneg sy gen i, mae yna ddisgrifiadau o'r Arglwydd Rhys sy'n dod "o'r ddeuddegfed ganrif" meddir. Ond cyfieithiadau Saesneg yw'r rhain, ac mae arna i angen y fersiwn Cymraeg.

Dyma nhw:

excellent protector
defender or the greatness of Deheubarth

Mae'n debyg eu bod yn dod o waith Cynddelw Brydydd Mawr, rhif 9, llinell 37 (yn ôl Bywgraffiadur Rhydychen ar-lein); does gen i ddim copi fy hunan, ac i geisio arbed trip i'r llyfrgell, dyma droi atoch chi garedigion y cylch.

All rhywun helpu plis? 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3456 - Release Date: 02/20/11