Y sylfaenol yw - be di pwrpas acronym? 1) Llai o le 2) Llai ailadroddus 3) Rhywbeth bachog mae pobl yn mynd i'w gofio a'i ddefnyddio (e.e. WAG!!!) Fel rheol, dydy acronymau Cymraeg ddim yn fachog a dydy pobl ddim yn debygol o'u cofio na'u defnyddio (ac eithrio ym myd addysg). Mae'n bosib osgoi'r gorailadrodd drwy ddilyn patrwm tebyg i'r hyn mae Geraint yn ei awgrymu e.e. Y Cynllun (os yw'n amlwg bod y gair yn cyfeirio at gynllun penodol mae'r ddogfen yn ymdrin â hwy) Ond, pan fydd lle'n brin, a bod rhaid defnyddio acronym, dw i'n tueddu i feddwl bod yr acronym yn fwy o symbol, neu'n air ynddo'i hun, ac felly nad oes llawer o bwynt ei gyfieithu Dw i'n meddwl bod angen gallu dweud y peth fel gair neu fod y llythrennau'n gwneud sŵn call ac mae acronymau Cymraeg bron yn ddiffael yn CGGGCCCC! - Hefyd gall treiglo/ffurfiau lluosog fod yn broblem e.e. ai gair benywaidd unigol yw CLlLC? Mae'n gas gen i ASau AALlau ac ati efo'r 'au' ar ôl y Seneddol a'r Lleol. Dw i'n gwybod bod pethau fel hyn wedi ennill eu plwy erbyn hyn ond maen nhw'n hyll ac yn awgrym cryf y dylen ni osgoi acronymau yn Gymraeg os oes modd. Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran CATRIN ALUN Anfonwyd/Sent: 21 Chwefror 2011 15:52 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: acronymau lluosog Oes angen eu 'dweud' nhw wrth ddarllen? _____ From: anna gruffydd <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Monday, 21 February, 2011 15:49:55 Subject: Re: acronymau lluosog Dwi'n falch dy fod ti'n cael ACEHI yn hawdd ei ddeud - dwi di bod yn practisio - swnio fel rwbath o The Jungle Book. Cytuno efo dy gyrchddull a gan mwya dwi wedi llwyddo i ddarbwyllo fy nghwsmeriaid, er bod y cyfri geiria ella ychydig yn fwy (ti hi!) a brawddega ychydig yn hwy, ei bod yn werth gwneud hyn yn y pen draw - dasu, mae petha'n gymaint haws eu darllen a'u dallt. Anna 2011/2/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Dwi'n cytuno nad ydyn nhw'n gweithio, dyna pam y deudais i "Os oes RHAID...". Dwi ddim yn meddwl bod "cynnyrch" yn treiglo yn fama beth bynnag, felly os oes RHAID rhoi acronym byddai ACEHI yn iawn i'r unigol a'r lluosog (ac yn digwydd bod yn hawdd i'w ddeud fel gair!!) Ond yn ymarferol, yn yr achos yma mi faswn i'n rhoi'r cyfieithiad llawn y tro cyntaf a rhoi (Ardal Is) (Ardal Ganolig) ac ati mewn cromfachau, ac wedyn yn eu galw'n Ardaloedd Is/Canolig/ Uwch drwy'r ddogfen. ----- Original Message ----- From: Rhian <mailto:[log in to unmask]> Huws To: [log in to unmask] Sent: Monday, February 21, 2011 3:01 PM Subject: Re: acronymau lluosog Mae’r acronymau LSOA / MSOA / HSOA (lower / middle / higher super output area) yn gyfarwydd iawn ym maes ystadegau mae’n debyg. Problem arall yn y Gymraeg yw y byddai’r acronym yn amrywio yn dibynnu p’un a gyfeirir at y lluosog ynteu’r unigol , sy’n mynd i fod yn andros o ddryslyd (ond sydd o bosibl yn datrys y broblem efo’r terfyniad lluosog gan na fyddai ei angen wedyn o bosibl): Ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI) Ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHI) Ta waeth am hynny, mae’r talfyriadau yma’n frith drwy’r ddogfen a’r graffiau, felly fe gadwaf at y Saesneg am y tro! Diolch bawb Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Sent: 21 February 2011 14:49 To: [log in to unmask] Subject: ATB: acronymau lluosog Dw i'n cytuno Anna - yr unig le fydda i'n defnyddio acronymau erbyn hyn ydy mewn tablau neu ddogfennau technegol iawn lle mae'r acronym yn cael ei ailadrodd droeon a lle'n brin (fel soniodd Rhian). Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd Anfonwyd/Sent: 21 Chwefror 2011 14:46 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: acronymau lluosog Ond mae hyn a dod a ni'n ol, decini, at y ffaith na dydyn nhw ddim yn gweithio. Yn Saesneg gellir deud AONBs fel gair - mi ddyffeia i chdi i ddeud AHNEau, neu waeth fyth AoHNEau - oce i ful ella. Ma isio peidio a'u defnyddio nhw. Fawr o obaith gweld hynny yn Saesneg lle maen nhw wedi ennill eu plwy mor braf, ond siawns na fedrwn ni eu hosgoi nhw???? Anna 2011/2/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Os oes RHAID cael acronym, oes yna reswm dros gadw'r acronym Saesneg? Dydio ddim yn acronym cyfarwydd a fyddai o'n golygu dim byd i fawr neb, felly pam ddim ei gyfieithu? Fel y gwneaed efo AONB > AHNE, er enghraifft. ----- Original Message ----- From: anna gruffydd <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Sunday, February 20, 2011 7:03 PM Subject: Re: acronymau lluosog Cytuno. Yn y bon mae acronymau'n bla, fel dan ni eisoes wedi'i drafod droeon - ac mi gychwynnais i'r ABBA - Association for the Banning of Bloody Acronyms oedd yn bur boblogaidd os da y cofiaf! At hynny, mae'r Saesneg yn eu defnyddio'n ansoddeiriol. Dim byd adeiladol i'w gynnig, ond ia, ella bod yn well gadael y lluosog yn Saesneg - mae lluosog Cymraeg yn fwy hurt fyth, ddeudwn i. Trio'u hosgoi nhw'n gyfan gwbwl y bydda i (mae'n wych i'r cyfri geiria eniwe!!!) Anna 2011/2/20 Rhian Huws <[log in to unmask]> Yr arfer gydag acronymau Cymraeg yw rhoi ‘au’ i ddynodi’r lluosog e.e. BILlau, Allau ac ati. Ond beth am acronymau Saesneg e.e. Lower super output areas (LSOAs). I mi mae ‘LSOAau’ yn edrych ac yn swnio’n rhyfedd a byddwn yn dueddol o gadw’r Saesneg fel y mae. Oes rhywun arall wedi dod ar draws pethau cyffelyb? Diolch yn fawr Rhian