Dwi'n cytuno nad ydyn nhw'n gweithio, dyna pam y deudais i "Os oes RHAID...".
 
Dwi ddim yn meddwl bod "cynnyrch" yn treiglo yn fama beth bynnag, felly os oes RHAID rhoi acronym byddai ACEHI yn iawn i'r unigol a'r lluosog (ac yn digwydd bod yn hawdd i'w ddeud fel gair!!)
 
Ond yn ymarferol, yn yr achos yma mi faswn i'n rhoi'r cyfieithiad llawn y tro cyntaf a rhoi (Ardal Is) (Ardal Ganolig) ac ati mewn cromfachau, ac wedyn yn eu galw'n Ardaloedd Is/Canolig/ Uwch drwy'r ddogfen.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Rhian Huws
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, February 21, 2011 3:01 PM
Subject: Re: acronymau lluosog

Mae’r acronymau LSOA / MSOA / HSOA (lower / middle / higher super output area) yn gyfarwydd iawn ym maes ystadegau mae’n debyg.

 

Problem arall yn y Gymraeg yw y byddai’r acronym yn amrywio yn dibynnu p’un a gyfeirir at y lluosog ynteu’r unigol , sy’n mynd i fod yn andros o ddryslyd (ond sydd o bosibl yn datrys y broblem efo’r terfyniad lluosog gan na fyddai ei angen wedyn o bosibl):

 

Ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI)

Ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHI)

 

Ta waeth am hynny, mae’r talfyriadau yma’n frith drwy’r ddogfen a’r graffiau, felly fe gadwaf at y Saesneg am y tro!

 

Diolch bawb

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 21 February 2011 14:49
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: acronymau lluosog

 

Dw i'n cytuno Anna - yr unig le fydda i'n defnyddio acronymau erbyn hyn ydy mewn tablau neu ddogfennau technegol iawn lle mae'r acronym yn cael ei ailadrodd droeon a lle'n brin (fel soniodd Rhian).

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 21 Chwefror 2011 14:46
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: acronymau lluosog

 

Ond mae hyn a dod a ni'n ol, decini, at y ffaith na dydyn nhw ddim yn gweithio. Yn Saesneg gellir deud AONBs fel gair - mi ddyffeia i chdi i ddeud AHNEau, neu waeth fyth AoHNEau - oce i ful ella. Ma isio peidio a'u defnyddio nhw. Fawr o obaith gweld hynny yn Saesneg lle maen nhw wedi ennill eu plwy mor braf, ond siawns na fedrwn ni eu hosgoi nhw????

Anna

2011/2/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Os oes RHAID cael acronym, oes yna reswm dros gadw'r acronym Saesneg? Dydio ddim yn acronym cyfarwydd a fyddai o'n golygu dim byd i fawr neb, felly pam ddim ei gyfieithu? Fel y gwneaed efo AONB > AHNE, er enghraifft.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>anna gruffydd

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]

Sent: Sunday, February 20, 2011 7:03 PM

Subject: Re: acronymau lluosog

 

Cytuno. Yn y bon mae acronymau'n bla, fel dan ni eisoes wedi'i drafod droeon - ac mi gychwynnais i'r ABBA - Association for the Banning of Bloody Acronyms oedd yn bur boblogaidd os da y cofiaf! At hynny, mae'r Saesneg yn eu defnyddio'n ansoddeiriol. Dim byd adeiladol i'w gynnig, ond ia, ella bod yn well gadael y lluosog yn Saesneg - mae lluosog Cymraeg yn fwy hurt fyth, ddeudwn i. Trio'u hosgoi nhw'n gyfan gwbwl y bydda i (mae'n wych i'r cyfri geiria eniwe!!!)

Anna

2011/2/20 Rhian Huws <[log in to unmask]>

Yr arfer gydag acronymau Cymraeg yw rhoi ‘au’ i ddynodi’r lluosog e.e. BILlau, Allau ac ati. Ond beth am acronymau Saesneg e.e.

 

Lower super output areas (LSOAs).

 

I mi mae ‘LSOAau’ yn edrych ac yn swnio’n rhyfedd a byddwn yn dueddol o gadw’r Saesneg fel y mae. Oes rhywun arall wedi dod ar draws pethau cyffelyb?

 

Diolch yn fawr

 

Rhian