Dw i'n tueddu i ffafrio 'i'r ysbyty' gan
feddwl ei fod o'n 'haniaethol' mewn rhyw ffordd, Rhian, run fath ag 'i'r
ysgol'. Mae rhywun yn mynd i'r ysgol ond 'i ysgol benodol'. Dw i'n meddwl
bod 'yr ysbyty' yr un fath. Ond bosib bod hyn yn mynd yn ôl i'r dyddiau
pan fyddai pawb yn mynd i'r ysgol a'r ysbyty'n lleol ac nad oedd 'na lawer o
ddewis. Dw i'n gweld y gallai fod yn gamarweiniol ond mae'n swnio'n fwy
naturiol.
Carolyn
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 20 Chwefror 2011
15:24
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: hospital admissions
Helo
Tybed all rywun helpu? Wedi bod yn pendroni ynghylch:
Derbyniadau i’r ysbyty
Derbyniadau i ysbytai
Dogfen ystadegol sydd gen i sy’n cyfeirio at ogledd Cymru, felly
yn amlwg mae mwy nag un ‘ysbyty’, ond wedi dweud hynny, mae’r
cyntaf yn swni’n fwy naturiol, ond falle’n llai ffeithiol gywir!
Yn ddiolchgar am unrhyw gymorth/arweiniad.
Rhian