Dw i'n tueddu i ffafrio 'i'r ysbyty' gan feddwl ei fod o'n 'haniaethol' mewn rhyw ffordd, Rhian, run fath ag 'i'r ysgol'. Mae rhywun yn mynd i'r ysgol ond 'i ysgol benodol'. Dw i'n meddwl bod 'yr ysbyty' yr un fath. Ond bosib bod hyn yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan fyddai pawb yn mynd i'r ysgol a'r ysbyty'n lleol ac nad oedd 'na lawer o ddewis. Dw i'n gweld y gallai fod yn gamarweiniol ond mae'n swnio'n fwy naturiol. Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws Anfonwyd/Sent: 20 Chwefror 2011 15:24 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: hospital admissions Helo Tybed all rywun helpu? Wedi bod yn pendroni ynghylch: Derbyniadau i’r ysbyty Derbyniadau i ysbytai Dogfen ystadegol sydd gen i sy’n cyfeirio at ogledd Cymru, felly yn amlwg mae mwy nag un ‘ysbyty’, ond wedi dweud hynny, mae’r cyntaf yn swni’n fwy naturiol, ond falle’n llai ffeithiol gywir! Yn ddiolchgar am unrhyw gymorth/arweiniad. Rhian