Er gwybodaeth, a chyda llawer iawn o
ddiolch i Eurwyn, nodaf yma’r ateb a gefais gan Wyn James:
Yn achos y pennill dan sylw, mae'n addasiad o'r pennill
Saesneg sydd ar ddechrau pennod 14 yn y gyfrol wreiddiol:
A young star which shone
O'er life, too sweet an image for
such glass,
A lovely being, scarcely formed or moulded,
A rose with all its sweetest leaves yet folded.
sydd yn ddyfyniad o gerdd hir Byron, Don Juan,
Canto 15, pennill 43. Mae'n ddiddorol gweld fod yr addasydd wedi dewis y mesur
emynyddol 87.87.47. wrth greu'r fersiwn Gymraeg.
Ann
From:
Sent: 18 February 2011 14:04
To:
[log in to unmask]
Subject: "Ber, ond hawddgar,
fu ei hoes"
'Rwyf wrthi’n cyfieithu hen gerrig beddau, ac yn
ceisio (o ran fy niddordeb fy hun hefyd) olrhain y dyfyniadau.
Ceir pennill y mae’r uchod yn rhan ohono ar ben pennod
yn “Caban F’ewyrth Twm”, ond ‘does dim byd i ddweud pwy
oedd yr awdur, ac ni welaf dim byd arall ar Wgl:
Seren ddisglaer am funudyn,
Yn pelydra heb ei hail;
Prin 'r agorai'r peraidd rosyn
Cyn i'r gawod ddwyn ei ddail
Bun anwylaidd,
Ber, ond hawddgar, fu ei
hoes.
Croesewir unrhyw
gymorth. (Efallai daw rhagor o ddyfyniadau’n nes ymlaen!)
Diolch,
Ann
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3451 - Release Date: 02/18/11