Print

Print


Er gwybodaeth, a chyda llawer iawn o ddiolch i Eurwyn, nodaf yma’r ateb a gefais gan Wyn James:

Yn achos y pennill dan sylw, mae'n addasiad o'r pennill Saesneg sydd ar ddechrau pennod 14 yn y gyfrol wreiddiol:

 

A young star which shone

O'er life, too sweet an image for such glass,

A lovely being, scarcely formed or moulded,

A rose with all its sweetest leaves yet folded.

 

sydd yn ddyfyniad o gerdd hir Byron, Don Juan, Canto 15, pennill 43. Mae'n ddiddorol gweld fod yr addasydd wedi dewis y mesur emynyddol 87.87.47. wrth greu'r fersiwn Gymraeg.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 18 February 2011 14:04
To: [log in to unmask]
Subject: "Ber, ond hawddgar, fu ei hoes"

 

'Rwyf wrthi’n cyfieithu hen gerrig beddau, ac yn ceisio (o ran fy niddordeb fy hun hefyd) olrhain y dyfyniadau. 

 

Ceir pennill y mae’r uchod yn rhan ohono ar ben pennod yn “Caban F’ewyrth Twm”, ond ‘does dim byd i ddweud pwy oedd yr awdur, ac ni welaf dim byd arall ar Wgl:

 
Seren ddisglaer am funudyn,
Yn pelydra heb ei hail;
Prin 'r agorai'r peraidd rosyn
Cyn i'r gawod ddwyn ei ddail
Bun anwylaidd, 

Ber, ond hawddgar, fu ei hoes.

 

Croesewir unrhyw gymorth.  (Efallai daw rhagor o ddyfyniadau’n nes ymlaen!)

 

Diolch,

 

Ann

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3451 - Release Date: 02/18/11