Sori – ella mai fi sy’n ddwl, ond dwi ddim yn deal y pwynt am gwahaniaeth rhwng ‘amynedd’ a ‘mynedd’…
Falle bydd rhaid i mi roi rhywbeth fel ‘dim awydd cyfrannu/helpu’…
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 02 February 2011 18:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited
Ond cofia bod ystyr "amynedd" yn wahanol i " 'mynedd" a bod "dim 'mynedd" yn ddierth yn y de.
Do'n i ddim wedi'i glywed e hyd yn oed yn y coleg.
Falle byddai "Dim awydd ..." neu "Dim eisiau ... yn gliriach
Siān
On 2 Chwef 2011, at 18:14, Rhian Huws wrote:
O’r cyd destun, dwi’n meddwl mai ‘uninvolved’ o ddewis sydd dan sylw –h.y. ydyn nhw’n ‘uninvolved’ efo’u plant yn fwriadol ynteu ydyn nhw’n ‘uninvolved’ am nad yw’r mamau ifanc yn gadael iddyn nhw
Dwi’n credu yr af i am awgrym Carolyn – ond ei ffurfioli fymryn gan mai cynhadledd i weithwyr iechyd proffesiynol sydd dan sylw:
‘Dim amynedd ynteu dim croeso?’
Diolch yn fawr baw
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 02 February 2011 18:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited
Ond onid ydi'r slogan yma'n dibynnu ar ystyr 'uninvolved'? (un o'n cas eiria ni) - ai nhw sy heb fynadd bod yn rhan o'r peth ta rhywun arall sydd heb eu cynnwys nhw?
Anna
2011/2/2 Carolyn <[log in to unmask]>
Tadau ifanc - dim 'mynedd 'ta dim croeso?
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
Anfonwyd/Sent: 02 Chwefror 2011 16:33
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: uninvolved or uninvited
Helo Bawb
Teitl araith: “Are young fathers really uninvolved or simply uninvited?’
Mae’r awen wedi pylu mae arna’i ofn. Y peth gorau sydd gen i hyd yma yw:
‘A yw tadau ifanc yn troi eu cefnau’n fwriadol neu oherwydd nad oes croeso iddynt?’
Gan ddiolch am bob ysbrydoliaeth!
Rhian