Gwych! Diolch yn fawr iawn, Eurwyn. Mae ei fanylion cyswllt gen i trwy Gymdeithas Bob Owen, felly cysylltaf ag o yn syth. Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones Sent: 18 February 2011 21:57 To: [log in to unmask] Subject: Mewn anghof ni chant fod Ann, Un a arferai fod yn arbenigwr ar “Caban F’ewyrth Twm” (y gwn i amdano) ydyw’r Dr E. Wyn James, darlithydd ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Caerdydd. Wna i ddim ymyrryd rhag i chi eich hun drefnu i gysylltu ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â’ch ymholiad. Os cofiaf yn iawn, mae’r Dr James hefyd wedi ymhél â chryn waith yng nghyswllt ysgrifau ar feddfeini. Hwyl, Eurwyn. _____ _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 18 February 2011 17:05 To: [log in to unmask] Subject: Mewn anghof ni chant fod Ceir y geiriau uchod deirgwaith ymhlith yr ychydig feddau sydd gen i. ‘Rwyf wedi dod ar draws can gan Geiriog sy’n cynnwys y geiriau, heb yr “h” yn anghof, ond mae’n ymddangos braidd yn rhy arwraidd ar gyfer rhai o drigolion (?) y beddau. Ydw i wedi colli rhywbeth – ydy Ceiriog ei hun yn dyfynnu? Yn Nyffryn Clwyd nid oes Dim ond darn bach o'r Groes, Oedd gynt yn golofn ar las fedd; Y bugail gân i'w braidd, Tra Einion Ririd Flaidd Yn gorffwys dan ei droed, Gan afael yn ei gledd. Ond cedwir ei goffâd Er mewn pridd, mewn parhad, Glân yw ei gleddyf fel erioed; Os caru cofio'r wyd Am ddolydd Dyffryn Clwyd, O! cofia gofio'r dewr Sydd yno dan dy droed. Mewn angof ni chânt fod Wyr y cledd, hir eu clod, Tra'r awel tros eu beddau chwyth; Y mae yng Nghymru fyrdd O feddau ar y ffyrdd Yn balmant hyd pa un Y rhodia Rhyddid byth! _____ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3452 - Release Date: 02/18/11