'Rwyf wrthi’n cyfieithu hen gerrig beddau, ac yn
ceisio (o ran fy niddordeb fy hun hefyd) olrhain y dyfyniadau.
Ceir pennill y mae’r uchod yn rhan ohono ar ben pennod
yn “Caban F’ewyrth Twm”, ond ‘does dim byd i ddweud pwy
oedd yr awdur, ac ni welaf dim byd arall ar Wgl:
Seren ddisglaer am funudyn,
Yn pelydra heb ei hail;
Prin 'r agorai'r peraidd rosyn
Cyn i'r gawod ddwyn ei ddail
Bun anwylaidd,
Ber, ond hawddgar, fu ei
hoes.
Croesewir unrhyw gymorth.
(Efallai daw rhagor o ddyfyniadau’n nes ymlaen!)
Diolch,
Ann