Mwy o broblemau meddygol! Beth ydi'r gair gorau i'w ddefnyddio am 'flutter' yn y cyd-destun yma? ('atrial flutter' - lle mae'r galon yn curo'n gyflym ond yn rheolaidd) Mae Cysgeir yn cynnig 'dychlamiad atriol' ('atrïaidd' ydi'r ffurf sy'n cael ei defnyddio yn GyrA), neu mae 'dirgryniad' i'w weld dan 'flutter' yn GyrA ac yn Cysgeir - 'dirgryniad atrïaidd'? Diolch Rhian