Dw i'n cyfieithu adroddiadau i gwmniau Guides a Brownies weithiau a dydw i byth yn cyfieithu'r enwau. Fydda i ddim yn cyfieithu 'Rainbows' wrth gyfeirio atyn nhw chwaith. Dydy'r Cymry Cymraeg dw i wedi dod ar eu traws wrth wneud y gwaith yma ddim yn defnyddio enwau Cymraeg chwaith.


Sian


Date: Thu, 17 Feb 2011 14:28:44 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: Rainbows, Brownies a Guides
To: [log in to unmask]

Fyddech chi'n cyfieithu enwau'r grwpiau uchod? Rwy wedi gweld Geidiaid droeon, ond fedra i ddim meddwl imi weld fersiwn Gymraeg o 'Brownies' a doeddwn i erioed wedi clywed am y 'Rainbows' tan heddiw.
 
Diolch am unrhyw gymorth.
 
Tegwen