Ond cofia bod ystyr "amynedd" yn wahanol i " 'mynedd" a bod "dim 'mynedd" yn ddierth yn y de. Do'n i ddim wedi'i glywed e hyd yn oed yn y coleg. Falle byddai "Dim awydd ..." neu "Dim eisiau ... yn gliriach Siân On 2 Chwef 2011, at 18:14, Rhian Huws wrote: > O’r cyd destun, dwi’n meddwl mai ‘uninvolved’ o ddewis sydd dan > sylw –h.y. ydyn nhw’n ‘uninvolved’ efo’u plant yn fwriadol ynteu > ydyn nhw’n ‘uninvolved’ am nad yw’r mamau ifanc yn gadael iddyn nhw > > Dwi’n credu yr af i am awgrym Carolyn – ond ei ffurfioli fymryn gan > mai cynhadledd i weithwyr iechyd proffesiynol sydd dan sylw: > > ‘Dim amynedd ynteu dim croeso?’ > > Diolch yn fawr baw > > Rhian > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf > Of anna gruffydd > Sent: 02 February 2011 18:02 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: ATB: uninvolved or uninvited > > Ond onid ydi'r slogan yma'n dibynnu ar ystyr 'uninvolved'? (un o'n > cas eiria ni) - ai nhw sy heb fynadd bod yn rhan o'r peth ta rhywun > arall sydd heb eu cynnwys nhw? > > Anna > > 2011/2/2 Carolyn <[log in to unmask]> > Tadau ifanc - dim 'mynedd 'ta dim croeso? > > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology > and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran > Rhian Huws > Anfonwyd/Sent: 02 Chwefror 2011 16:33 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: uninvolved or uninvited > > Helo Bawb > > Teitl araith: “Are young fathers really uninvolved or simply > uninvited?’ > > Mae’r awen wedi pylu mae arna’i ofn. Y peth gorau sydd gen i hyd > yma yw: > > ‘A yw tadau ifanc yn troi eu cefnau’n fwriadol neu oherwydd nad oes > croeso iddynt?’ > > Gan ddiolch am bob ysbrydoliaeth! > > Rhian >