Dwi'n gwybod dy fod dramor, ac fe fyddaf yn cymryd hoe o ddosbarthu taflenni am y 4 diwrnod nesa drwy ymuno a thi'n yr Eidal - Fenis amdani - ac yna ail-ddychwelyd i'r frwydr. A brwydr ydi hi hefyd i wrthweithio difaterwch. Ond fy mhwynt oedd, er bod digon o gamdeipio ac iaith sathredig ar y wefan, nid ymgyrchydd 'Ie' oedd yn gyfrifol am yr anhwylusdod iaith y tro hwn - ond peiriant gwefan Fêsbwc ei hun. Mae'n eich cyfarwyddo 'Hoffi' neu 'Dim yn hoffi' ac yna yn argymell 'Hoffwch'. Alwyn In a message dated 15/02/2011 18:03:58 GMT Standard Time, [log in to unmask] writes: Fel deudais i, mae'n ddrwg gen i fod mor bigog. Ia, dwi'n dallt rhesymeg petha pwysicach nag iaith gywir, ond pan dwi'n gweld gwahoddiad i ymuno ag ymgyrch wedi'i sgrifennu mewn iaith sathredig mae'n fy nhroi oddi wrth yr ymgyrch - fel mae gweld 'potatoe's' yn fy nhroi oddi wrth eu bwyta nhw neu'u prynu nhw yn y fan honno - eithafol, ella, ond dwi'n meddwl y cei di fod llawer o bobol sy'n ymwneud ag iaith yn teimlo'r un fath duw helpo ni! Beth bynnag, pob hwyl efo'r ymgyrch - dwi fawr o help gan nad ydw i'n byw yng Nghymru na hyd yn oed ym Mhrydain, diolch i dduw. Cofion, Anna 2011/2/15 Alwyn Evans <[log in to unmask] (mailto:[log in to unmask]) > Mae'n flin gen i eich bod wedi eich aflonyddu, Anna. Mae unrhyw un sy'n defnyddio Facebook yn rheolaidd yn sylweddoli ei fod yn llurgunio'r iaith, ac yn aml yn bi-ieithog. Dyna'r pris 'dan ni'n ei dalu am ei gael yn y 'Gymraeg' . Dw'i wedi bod ers hydoedd yn ceisio llenwi fy 'Ninas' a'm 'Cartref' gan geisio defnyddio 'Penarth' yn fy mhroffil. Dim ond 'Penarth Vale of Glamorgan' mae Fêsbwc yn ei dderbyn. Felly yn fy mhroffil 'dwi'n ddigartref . Mi dreies i 'Cymru' ac fe geisiodd fy lleoli yn 'Cymru, Natal, South Africa'. Mae'r frawddeg rydach chi'n cwyno amdani'n un a gynhyrchwyd o leiaf yn rhannol yn awtomatig gan y peiriant. Mae pethau pwysicach mewn bywyd yn ein poeni ni ar hyn o bryd - er enghraifft treulio'n hamser yn ceisio gwneud gwahaniaeth fechan iawn i sut mae'r Cynulliad yn gweithredu! Alwyn In a message dated 13/02/2011 19:04:04 GMT Standard Time, [log in to unmask] (mailto:[log in to unmask]) writes: Annwyl ffrindiau newydd - cliciwch drawn a hoffwch ein fanpage i ddarganfod mwy am yr ymgyrch Dwi'n rhoi'r ffidil yn y to, Pollutri, nos Sul, Anna