Ie! Swnio’n llawer gwell!
Diolch yn fawr
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Melanie Davies
Sent: 09 February 2011 10:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Prefer not to say
Beth am Gwell gennyf beidio ag ateb?
Melanie
From: [log in to unmask]">Rhian Huws
Sent: Wednesday, February 09, 2011 10:20 AM
Subject: Prefer not to say
Bore Da
Ffurflen monitro cyfle cyfartal sydd dan sylw. Fel opsiwn ar gyfer pob cwestiwn mae ‘Prefer not to say’.
Y cynigion gerbron yw:
‘Gwell gennyf beidio (â) dweud’ (oes angen yr â bob tro ar ôl ‘peidio’?)
Mae’n well gennyf beidio (â) dweud
Ond tybed ydi ‘dweud’ yn swnio’n rhyfedd? Nid ‘dweud’ ydach chi mewn gwirionedd ond nodi hynny ar y ffurflen – ond mae’n debyg bod yr un peth yn wir am ‘say’ yn Saesneg. Fedar unrhyw un feddwl am rywbeth gwell?
Diolch yn fawr
Rhian