O diar. Yn Geiriadur yr Academi, gwelaf "aider = helper, S.a. (See also) first", ond dim byd (cyhyd ag y gallaf ei weld) dan "first"! Yn yr Atodiad, gwelaf: 31 Add: aider n. cynorthwywr (cynorthwywyr) m, cynorthwy-ydd(-ion) m, helpwr (helpwyr) m, cynorthwywraig (cynorthwywragedd) f, h|elpwraig (helpwragedd) f S.a. first-~. Ond 'does dim "first-aider" yno chwaith. Rhywbeth i'w gywiro! Yn y cyfamser, 'rwyf wedi edrych yn fy nghronfa o gyfieithiadau a gweld un achos o "gwirfoddolwr cymorth cyntaf" - efallai byddai hynny'n saffach, gan ddibynnu ar y cyd-destun. Cofiaf fod yn "first-aider" yn y gwaith, a derbyn rhyw gydnabyddiaeth fechan, ond gwirfoddolwyr oedden ni i gyd er hynny. Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones Sent: 05 February 2011 12:41 To: [log in to unmask] Subject: first aider Mae Google yn cynnig ambell enghraifft o 'cymhorthydd cyntaf'. Ydy hwn wedi ennill ei blwyf? Fyddai 'swyddog cymorth cyntaf' yn well? _____ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3424 - Release Date: 02/05/11