Mae'r acronymau LSOA / MSOA / HSOA (lower / middle / higher super output area) yn gyfarwydd iawn ym maes ystadegau mae'n debyg. Problem arall yn y Gymraeg yw y byddai'r acronym yn amrywio yn dibynnu p'un a gyfeirir at y lluosog ynteu'r unigol , sy'n mynd i fod yn andros o ddryslyd (ond sydd o bosibl yn datrys y broblem efo'r terfyniad lluosog gan na fyddai ei angen wedyn o bosibl): Ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI) Ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHI) Ta waeth am hynny, mae'r talfyriadau yma'n frith drwy'r ddogfen a'r graffiau, felly fe gadwaf at y Saesneg am y tro! Diolch bawb Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Sent: 21 February 2011 14:49 To: [log in to unmask] Subject: ATB: acronymau lluosog Dw i'n cytuno Anna - yr unig le fydda i'n defnyddio acronymau erbyn hyn ydy mewn tablau neu ddogfennau technegol iawn lle mae'r acronym yn cael ei ailadrodd droeon a lle'n brin (fel soniodd Rhian). Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd Anfonwyd/Sent: 21 Chwefror 2011 14:46 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: acronymau lluosog Ond mae hyn a dod a ni'n ol, decini, at y ffaith na dydyn nhw ddim yn gweithio. Yn Saesneg gellir deud AONBs fel gair - mi ddyffeia i chdi i ddeud AHNEau, neu waeth fyth AoHNEau - oce i ful ella. Ma isio peidio a'u defnyddio nhw. Fawr o obaith gweld hynny yn Saesneg lle maen nhw wedi ennill eu plwy mor braf, ond siawns na fedrwn ni eu hosgoi nhw???? Anna 2011/2/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Os oes RHAID cael acronym, oes yna reswm dros gadw'r acronym Saesneg? Dydio ddim yn acronym cyfarwydd a fyddai o'n golygu dim byd i fawr neb, felly pam ddim ei gyfieithu? Fel y gwneaed efo AONB > AHNE, er enghraifft. ----- Original Message ----- From: anna gruffydd <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Sunday, February 20, 2011 7:03 PM Subject: Re: acronymau lluosog Cytuno. Yn y bon mae acronymau'n bla, fel dan ni eisoes wedi'i drafod droeon - ac mi gychwynnais i'r ABBA - Association for the Banning of Bloody Acronyms oedd yn bur boblogaidd os da y cofiaf! At hynny, mae'r Saesneg yn eu defnyddio'n ansoddeiriol. Dim byd adeiladol i'w gynnig, ond ia, ella bod yn well gadael y lluosog yn Saesneg - mae lluosog Cymraeg yn fwy hurt fyth, ddeudwn i. Trio'u hosgoi nhw'n gyfan gwbwl y bydda i (mae'n wych i'r cyfri geiria eniwe!!!) Anna 2011/2/20 Rhian Huws <[log in to unmask]> Yr arfer gydag acronymau Cymraeg yw rhoi 'au' i ddynodi'r lluosog e.e. BILlau, Allau ac ati. Ond beth am acronymau Saesneg e.e. Lower super output areas (LSOAs). I mi mae 'LSOAau' yn edrych ac yn swnio'n rhyfedd a byddwn yn dueddol o gadw'r Saesneg fel y mae. Oes rhywun arall wedi dod ar draws pethau cyffelyb? Diolch yn fawr Rhian