Er gwybodaeth, a chyda llawer iawn o ddiolch i Eurwyn, nodaf yma'r ateb a gefais gan Wyn James: Yn achos y pennill dan sylw, mae'n addasiad o'r pennill Saesneg sydd ar ddechrau pennod 14 yn y gyfrol wreiddiol: A young star which shone O'er life, too sweet an image for such glass, A lovely being, scarcely formed or moulded, A rose with all its sweetest leaves yet folded. sydd yn ddyfyniad o gerdd hir Byron, Don Juan, Canto 15, pennill 43. Mae'n ddiddorol gweld fod yr addasydd wedi dewis y mesur emynyddol 87.87.47. wrth greu'r fersiwn Gymraeg. Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 18 February 2011 14:04 To: [log in to unmask] Subject: "Ber, ond hawddgar, fu ei hoes" 'Rwyf wrthi'n cyfieithu hen gerrig beddau, ac yn ceisio (o ran fy niddordeb fy hun hefyd) olrhain y dyfyniadau. Ceir pennill y mae'r uchod yn rhan ohono ar ben pennod yn "Caban F'ewyrth Twm", ond 'does dim byd i ddweud pwy oedd yr awdur, ac ni welaf dim byd arall ar Wgl: Seren ddisglaer am funudyn, Yn pelydra heb ei hail; Prin 'r agorai'r peraidd rosyn Cyn i'r gawod ddwyn ei ddail Bun anwylaidd, Ber, ond hawddgar, fu ei hoes. Croesewir unrhyw gymorth. (Efallai daw rhagor o ddyfyniadau'n nes ymlaen!) Diolch, Ann _____ No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 10.0.1204 / Virus Database: 1435/3451 - Release Date: 02/18/11