Felly y defnydd o wybodaeth ydi intelligence, ie? "Health information and intelligence" felly fyddai "gwybodaeth iechyd cyhoeddus a'r defnydd a wneir ohoni" ? Gwybodaeth ydi "knowledge" hefyd, ond problem arall ydi honno. ;-) ----- Original Message ----- From: Rhian Huws To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, January 12, 2011 12:27 PM Subject: Re: intelligence Dyma ddiffiniad o health intelligence: capturing and utilising knowledge to support decision-making to improve the health of the population O ddarllen ymlaen, 'gwybodaeth' sy'n cael ei ddefnyddio amlaf yng nghorff y testun gydag ambell 'gwybodusrwydd'(!) wedi llithro mewn yma ac acw. Noder y manylion cyswllt newydd isod. Please note new contact details below. Rhian Huws Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services 47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask] Ffôn/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492 www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones Sent: 12 January 2011 11:14 To: [log in to unmask] Subject: Re: intelligence Mae'cudd-wybodaeth' yn gyfyngedig i 'intelligence' yng ngwaith heddluoedd etc, gan ei fod yn waith yn y cudd, wrth reswm. Yn bersonol rwy'n credu bod 'deallusrwydd yn gynnig da,. A fydda'i well dweud 'deallusrwydd am iechyd cyhoeddus' i'w wneud yn haws ei ddeall ar y darlleniad cynta? Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 12 January 2011 11:03 To: [log in to unmask] Subject: intelligence Bore da Tybed all rywun helpu? Dwi wrthi'n prawfddarllen darn o waith. Maes iechyd yw'r cyd-destun, ac yn benodol dadansoddi data a thystiolaeth a'i droi'n 'intelligence' - h.y. cynhyrchu rhywbeth sy'n dangos beth yw arwyddocad y data a'r dystiolaeth i iechyd. Y pennawd yw:- Transforming data and evidence into public health intelligence a'r cyfieithiad yw 'Trawsnewid data a thystiolaeth yn ddeallusrwydd iechyd cyhoeddus' Mae 'cudd-wybodaeth' yn swnio braidd yn amhriodol yn y cyd-destun hwn, ac falle dyna pam y denfyddiodd y cyfieithydd 'deallusrwydd', ond mae'n fy nharo i braidd yn chwithig. Yn ddiolchgar am unrhyw gynigion Cofion Rhian Noder y manylion cyswllt newydd isod. Please note new contact details below. Rhian Huws Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services 47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask] Ffôn/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492 www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk